Mater - cyfarfodydd

Governance Update and Consultations

Cyfarfod: 28/02/2024 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 38)

38 Diweddariad Llywodraethu ac Ymgynghoriadau pdf icon PDF 283 KB

Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion perthnasol i lywodraethu, a darparu Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant drafft i gael sylwadau a chymeradwyaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd Mr Latham yr adroddiad fesul paragraff i’r Pwyllgor, gan gynnwys cynnydd yn erbyn y cynllun busnes a datblygiadau cyfredol gan gynnwys Cod Ymarfer Cyffredinol newydd y Rheoleiddiwr Pensiynau (TPR) a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Fwrdd Ymgynghorol y Cynllun (SAB).

            Eglurodd Mr Middleman o Mercer fod datganiad SAB ar warged y Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol fel y disgwyliwyd ac yn gyson â sut mae strategaeth ariannu’r Gronfa Bensiynau yn mynd i’r afael â gwarged sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd cyfraniadau yn hirdymor.  Mae’r datganiad yn codi gwrthdaro buddiannau posibl wrth osod cyfraddau cyfraniadau.  Eglurodd drwy’r strwythur llywodraethu cryf a’r deialog gyda’r prif gyflogwyr, mae’r Gronfa yn sicrhau bod unrhyw wrthdaro posibl yn cael ei reoli’n dda a’i ystyried gan y swyddogion a’r Pwyllgor.  Roedd elfennau allweddol eraill o’r datganiad yn cynnwys strategaethau buddsoddi penodol i gyflogwyr lle bo cyflogwyr yn gadael cronfeydd, a therfyniadau rhannol pan fo cyflogwyr yn diddymu rhan o’u hatebolrwydd.  Mae’r materion hyn yn llai perthnasol i’r Gronfa, yn bennaf gan fod mwyafrif cyflogwyr Cronfa Bensiynau Clwyd yn gyrff sector cyhoeddus ac nid oes disgwyl iddynt adael y Gronfa.  Ond, os bydd yn fater yn y dyfodol, caiff ei gyflwyno i’w ystyried gan y Pwyllgor.

            Nododd Mr Hibbert fod y Llywodraeth Ganolog yn anghywir i ystyried gwarged Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol fel modd o ostwng Treth y Cyngor ac fel pot o arian i’r Llywodraeth ei gyfeirio.  Nododd yr iaith a ddefnyddir mewn perthynas â’r Llywodraeth yn dymuno peidio â chyfeirio cronfeydd o ran sut neu beth i fuddsoddi ynddo, ond i wneud awgrymiadau cyffredinol.  Roedd yn teimlo pe byddai’r Llywodraeth yn darparu amgylchedd lle y gall buddsoddiadau dyfu, bydd y Gronfa’n eu canfod ac yn buddsoddi ynddynt lle bo’n addas.

            Gofynnodd y Cyng Shallcross a yw’r ‘llinell’ rhwng gwarged a diffyg ariannol wedi symud i adlewyrchu maint cynyddol y pot sydd ei angen i ddarparu pensiynau ar gyfer y boblogaeth sy’n heneiddio.  Cadarnhaodd Mr Middleman pan ystyrir y strategaeth ariannu ac y gosodir y cyfraniadau, mae disgwyliad oes a’r boblogaeth yn heneiddio’n cael ei ystyried i sicrhau bod y cyllid sydd ar gael yn ddigonol i ddiwallu’r anghenion hynny.  Nododd bod cyfradd y twf mewn disgwyliad oes yn gostwng ar hyn o bryd yn seiliedig ar y data diweddaraf, a fydd yn bwynt trafod i’w ystyried yn y prisiad nesaf a bydd yn cael ei ystyried yn ddiweddarach eleni fel rhan o’r adolygiad cyllid dros dro.

            Trosglwyddodd Mr Latham i Mr Turner a eglurodd y paragraff ar Gyfraith Sharia.  Eglurodd Mr Turner ei bod yn ddefnyddiol cael eglurhad o’r mater gan SAB ac er y disgwylir rhagor o gyngor, mae disgwyl na fydd llawer o effaith ar fuddsoddiadau’r Gronfa.   Mae’r pryderon o ran Cyfraith Sharia yn bryder ar gyfer pensiynau cyfraniadau diffiniedig yn bennaf a gellir cynnig dewisiadau buddsoddi sy’n cydymffurfio â Sharia yn y cynlluniau hynny.  Ond, nid yw’r datrysiad hwn yn berthnasol i sut mae cronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn buddsoddi. Bydd eglurhad gan SAB a’r farn gyfreithiol yn darparu arweiniad defnyddiol yn y maes.  ...  view the full Cofnodion text for item 38