Mater - cyfarfodydd

Pooled Budget Agreement for Care Home Accommodation for Older People

Cyfarfod: 29/02/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 50)

50 Cytundeb Cyllideb Gyfun ar gyfer Llety Cartrefi Gofal i Bobl Hyn pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am waith Gr?p Cyllideb Gyfun Gogledd Cymru i fodloni gofynion cyfreithiol a pholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllidebau cyfun rhwng llywodraeth leol a’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr – Diogelu a Chomisiynu yr adroddiad a oedd i geisio cymeradwyaeth yn ymwneud â’r trefniadau partneriaeth rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar draws rhanbarthau a phwysigrwydd cydweithio er budd y rhai hynny sy’n derbyn gwasanaethau.  Eglurodd fod Llywodraeth Cymru yn gofyn i Iechyd ac Awdurdodau Lleol gydweithio’n ariannol yn ogystal â’r ffaith ei fod yn cael ei yrru gan y gwasanaeth.  Yng Ngogledd Cymru fe fabwysiadwyd y ddeddfwriaeth ac ym mlwyddyn ariannol 2019/20 cytunwyd ar gyllideb gyfun ranbarthol unigol ar gyfer y 6 Awdurdod Lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

Wrth ymateb i’r Cynghorydd Mackie eglurodd yr Uwch Reolwr – Diogelu a Chomisiynu fod y ddeddfwriaeth wedi dod i fodolaeth yn 2016 ond fod cyllidebau cyfun yn strwythurau cymhleth a bod angen i bob un o’r 7 partner ddod i gytundeb yngl?n â sut y gellid ei gyflawni ac roedd hynny wedi cymryd amser ac o ganlyniad fe gymrodd tan fis Gorffennaf 2019 iddo fod yn cydymffurfio, ond cafodd ei ôl-ddyddio i’r flwyddyn ariannol newydd yn Ebrill 2019 fel rhan o’r cynnig gwreiddiol.

 

Eglurodd yr Uwch Reolwr – Diogelu a Chomisiynu wrth aelodau fod cyllideb gyfun yn rhannu risgiau ariannol a gan fod yna angen i gydnabod dyhead Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio’n fwy agos gyda’r Bwrdd Iechyd, cytunwyd fod yr holl Awdurdodau Lleol yng Ngogledd Cymru a’r Bwrdd Iechyd yn rhoi’r gyllideb y byddent yn ei gwario ar ofal ac iechyd pobl h?n o fewn y farchnad gofal cartref yn y gyllideb gyfun. Dywedodd fod hyn yn bodloni gofyniad deddfwriaeth statudol a bod Llywodraeth Cymru’n hapus gyda’r trefniant. Dywedodd nad yw pawb yn rhoi’r un swm i mewn ond roedd y swm a roddir i mewn yr un fath â’r swm a ddaw allan.  Yn 2022/23 rhoddodd Sir y Fflint £10.5 miliwn i mewn.  Dywedodd fod yna gost weinyddol a rannwyd o £20,000 y flwyddyn, a dalwyd i Sir Ddinbych am gynnal y gyllideb ar ran y 6 awdurdod a’r Bwrdd Iechyd, ac roedd yn talu am y broses o adrodd yn fisol i Lywodraeth Cymru ac archwilio a chostau gweinyddol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) nad oedd yn ymwybodol o fwriadau’r Gweision Sifil a luniodd y rheoliadau ond y dewis arall fyddai cyllideb gyfun gyflawn lle byddent i gyd yn rhoi’r hyn maent yn ei wario ar gartrefi gofal ar draws y rhanbarth i mewn gyda hynny wedyn yn cael ei gyfuno mewn un gyllideb fawr, ond roedd gormod o risgiau’n perthyn i’r dull hwnnw.

 

            Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Hilary McGuill a’u heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)         Cefnogi’r cynnydd a wnaed yn rhanbarthol o ran bodloni gofynion Rhan 9 Deddf 2014 sy’n cynnwys gofyniad cyfreithiol i sefydlu cronfa gyfun ranbarthol ar gyfer llety cartref gofal i bobl h?n; a

 

(b)         Bod yr aelodau’n cefnogi’r Cyngor i ymrwymo i gytundeb cyfreithiol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'r chwe awdurdod lleol ar draws Gogledd Cymru, a fyddai’n rheoleiddio  ...  view the full Cofnodion text for item 50