Mater - cyfarfodydd

Council Fund Budget 2024/25 - Final Closing Stage

Cyfarfod: 20/02/2024 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 81)

81 Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2024/25 - Y Cam Cau Olaf pdf icon PDF 80 KB

Pwrpas:        I gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2024/25 ar argymhelliad y Cabinet.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad manwl yn seiliedig ar yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet yn gynharach yn y dydd, a oedd yn ymdrin â’r canlynol:

 

·         Gosod cyllideb gytbwys a chyfreithlon

·         Y daith hyd yma...

·         Newidiadau pellach i’r gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer 2024/25

·         Gofyniad Cyllidebol Ychwanegol 2024/25

·         Datrysiadau Cyllidebol

o   Cyllid Allanol Cyfun

o   Gostyngiadau i Gostau Portffolios

o   Gostyngiadau i Gostau Ysgolion

o   Gostyngiadau Cost Eraill

o   Treth y Cyngor

o   Datrysiadau a Gynigiwyd yn Derfynol

o   Dewis Arall o ran y Gyllideb (a gyflwynwyd gan y Gr?p Annibynnol)

·         Treth y Cyngor 2024/25

·         Cyllidebau Ysgolion a Gofal Cymdeithasol

·         Risgiau Agored yn 2024/25

·         Cronfeydd Wrth Gefn

·         Barn Broffesiynol a Sylwadau i Gloi

·         Edrych i’r Dyfodol

·         Y Camau Nesaf ac Amserlenni

 

Roedd y cyflwyniad yn nodi newidiadau ers y sefyllfa a adroddwyd fis Ionawr a oedd wedi ystyried effaith ariannol Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru.  Wedi dwy sesiwn friffio i’r Aelodau ac wedi i’r pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ystyried cynigion lleihau costau ychwanegol, roedd gwaith wedi parhau i adolygu’r sefyllfa gyffredinol ynghyd â chyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru ar gyllid canlyniadol a ddisgwyliwyd gan Lywodraeth y DU.  Cafwyd manylion yngl?n â chanlyniad y gwaith hwnnw yn yr adroddiad i’r Cabinet gyda datrysiadau arfaethedig terfynol i amlinellu sut y gallai’r Cyngor gyflawni cyllideb gyfreithlon a chytbwys ar gyfer 2024/25.  Roedd y gyllideb arfaethedig yn cynnwys cynnydd blynyddol cyffredinol o 8% ar Dreth y Cyngor ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor ac 1.1% ar gyfer cyfraniadau ychwanegol i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a’r Gwasanaeth Crwneriaid Rhanbarthol.   Roedd hyn yn cyfateb i gynnydd cyffredinol o 9.1% a roddai  arenillion net ychwanegol cyffredinol o £9.072 miliwn yn 2024/25.  Cafodd dadansoddiad o’r cynnig hwn a dewis a gyflwynwyd gan y Gr?p Annibynnol - a oedd yn gofyn am ddefnyddio’r Cyllid Allanol Cyfun ychwanegol gan Lywodraeth Cymru gyda chynnydd cyffredinol yn Nhreth y Cyngor o 9.0% - ei egluro yn y cyflwyniad.

 

Amlygwyd nifer o risgiau agored sylweddol ar gyfer 2024/25 ynghyd â diweddariad ar gronfeydd wrth gefn gan gynnwys atgoffa yngl?n â phwysigrwydd meithrin a chynnal cronfeydd wrth gefn i ddiogelu yn erbyn risgiau agored ac ar gyfer y tymor canolig yng ngoleuni’r setliadau llai a ragwelir ar gyfer 2025/26 a 2026/27.

 

Daeth y Prif Weithredwr â’r cyflwyniad i ben drwy adlewyrchu ar y risgiau cynyddol a’r heriau sy’n codi o’r setliad gwael gan Lywodraeth Cymru a’r angen am reolaeth ariannol gynyddol yn 2024/25 i ymateb i’r setliadau ariannol llai a ragwelir ar gyfer y dyfodol, gyda mwy o bwyslais ar drawsnewid gwasanaethau a lleihau cost.

 

Fel Arweinydd y Cyngor, diolchodd y Cynghorydd Ian Roberts i bawb am eu mewnbwn ar y sefyllfa heriol o ran y gyllideb ac adleisiodd bryderon swyddogion am sefyllfa ariannol llywodraeth leol yn y dyfodol.  Yn dilyn cyfarfod y Cabinet a’r trafodaethau gyda’r Gr?p Annibynnol yn gynharach yn ystod y dydd, fe gynigiodd y gyllideb amgen a nodwyd ym mharagraff 1.25 yr adroddiad a oedd yn cynnwys cynnydd cyffredinol blynyddol  ...  view the full Cofnodion text for item 81