Mater - cyfarfodydd

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyfarfod: 24/01/2024 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 22)

22 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 81 KB

Pwrpas:  Cytuno ar eitemau o fusnesau i gael eu trafod mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Waith i'w hystyried, a rhoddodd wybodaeth am yr eitemau rheolaidd ynghyd â'r rhai a drefnwyd ar gyfer y cyfarfodydd sydd i ddod ym mis Mawrth a mis Mehefin.  Wrth symud ymlaen, awgrymwyd cynnwys adroddiad olrhain camau gweithredu, tebyg i bwyllgorau eraill i gynorthwyo aelodau'r pwyllgor.

 

Cymeradwywyd yr argymhellion yn yr adroddiad fel y'u cynigiwyd gan y Cynghorydd Paul Johnson ac eiliwyd gan y Cynghorydd Ted Palmer.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Bod y Pwyllgor yn ystyried y Rhaglen Waith ddrafft a chymeradwyo / newid yn ôl yr angen.

(b)      Rhoi awdurdod i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio'r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.