Mater - cyfarfodydd
Cambrian Aquatics
Cyfarfod: 07/03/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 86)
Cambrian Aquatics
Pwrpas: Cyflwyno adroddiad gyda’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch Trosglwyddo Asedau Cymunedol, Cambrian Aquatics.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Gweithredol Strategol adroddiad ar Drosglwyddo Ased Cymunedol, Cambrian Aquatics. Yr argymhelliad oedd i’r Pwyllgor ystyried cynnwys yr adroddiad a rhoi adborth i’r Cabinet fel bo’n briodol. |
PENDERFYNWYD: |
Ar ôl ystyried cynnwys yr adroddiad, bod y Pwyllgor yn rhoi’r adborth canlynol i’r Cabinet: (a) Bod y Pwyllgor yn cydnabod gwerth strategol y baddonau, o ystyried agosatrwydd Cei Connah i Afon Dyfrdwy a’i aber llanwol; (b) Bod y Cabinet yn ystyried faint sydd wedi cael ei arbed trwy gydol oes y trosglwyddiad ased ac a allai cyfran o hynny fod ar gael i Cambrian Aquatics; a (c) Bod cyfnod pellach yn cael ei ganiatáu i Aelodau Lleol weithio gyda Cambrian Aquatics i weld a ellir gwella ei berfformiad ariannol ac a oes datrysiad amgen yn hytrach na chau. |