Mater - cyfarfodydd
Investment and Pooling Update
Cyfarfod: 29/11/2023 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 33)
33 Y wybodaeth ddiweddaraf am Fuddsoddi a Chronni PDF 147 KB
Pwrpas: Cyflwyno diweddariad i Aelodau'r Pwyllgor ar faterion buddsoddi a Phartneriaeth Pensiwn Cymru.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Investment and Pooling Update, eitem 33 PDF 94 KB
- Enc. 2 for Investment and Pooling Update, eitem 33 PDF 139 KB
- Enc. 3 for Investment and Pooling Update, eitem 33 PDF 660 KB
- Enc. 4 for Investment and Pooling Update, eitem 33 PDF 923 KB
- Enc. 5 for Investment and Pooling Update, eitem 33 PDF 96 KB
- Enc. 6 for Investment and Pooling Update, eitem 33 PDF 175 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Y wybodaeth ddiweddaraf am Fuddsoddi a Chronni
Cofnodion:
Aeth Mr I Hughes â'r Pwyllgor trwy brif bwyntiau'r adroddiad hwn gan gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn erbyn y cynllun busnes, materion PPC, a buddsoddiadau lleol ac effaith. Rhannodd fideo yr oedd y Gronfa wedi’i gynhyrchu mewn partneriaeth â’r Sefydliad Rheoli Pensiynau, yn arddangos buddsoddiadau cyfrifol y Gronfa mewn ynni glân drwy Capital Dynamics, a mentrau lleol bach/canolig drwy Fanc Datblygu Cymru. Dywedodd Mr Hibbert ei fod wedi mwynhau'r fideo a oedd yn addysgiadol iawn iddo.
Ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor, roedd Swyddogion y Gronfa wedi cyfarfod â swyddogion o awdurdodau eraill Cymru ar dri achlysur ynghylch buddsoddi cyfrifol, gan gynnwys cyflwyniad cod stiwardiaeth PPC, adroddiadau risg hinsawdd ac ESG, ac adroddiadau ymgysylltu pleidleisio gan Robeco. Mae Hymans bellach wedi cynhyrchu adroddiad BC ar ran PPC a oedd ynghlwm fel atodiad i'r adroddiad. Bydd y Pwyllgor a'r Bwrdd yn parhau i dderbyn papurau JGC Preifat ar ymgysylltu a benthyca gwarantau fel y cytunwyd yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor.
Aeth Mr A Munro â’r Pwyllgor drwy adroddiad Adolygiad AVC 2023 sy’n trafod dau ddarparwr AVC y Gronfa: Utmost (buddsoddiadau sy’n gysylltiedig ag unedau) a Prudential (buddsoddiadau sy’n gysylltiedig ag unedau a chydag elw). Nid oedd unrhyw bryderon gyda'r naill ddarparwr na'r llall. O ganlyniad i'r adolygiad, cynghorwyd Swyddogion i anfon cyfathrebiadau yn atgoffa aelodau o'u AVC, yn ogystal â nodiadau atgoffa cyfnodol o nodweddion allweddol a risgiau cronfeydd gydag elw. Cynhelir yr adolygiad AVC nesaf erbyn mis Tachwedd 2024.
Atgoffodd Mrs McWilliam aelodau’r Pwyllgor a’r Bwrdd o werth AVC fel cyfle ychwanegol ar gyfer arbedion ymddeoliad, a phwysigrwydd adolygu’r darpariaethau AVC yn rheolaidd i sicrhau bod yr arian a gynigir a’r cyfathrebu o’u cwmpas yn parhau’n addas i ddiogelu arian aelodau.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn ystyried, nodi ac yn gwneud sylwadau ar y diweddariad.