Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol
Cyfarfod: 19/07/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 15)
15 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 96 KB
Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Forward Work Programme, eitem 15 PDF 74 KB
- Enc. 2 - Terms of Reference, eitem 15 PDF 55 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd Raglen Waith y Pwyllgor i’w hystyried, gan nodi bod angen diweddaru teitlau Aelodau’r Cabinet ar y Cylch Gorchwyl.
Yn unol â'r cais, byddai swyddogion Cyllid yn rhannu dadansoddiad o arian grant a gwariant y Cyngor ar weithredu parthau 20mya.
Byddai adroddiad yn cael ei drefnu ar gyfer mis Tachwedd / Rhagfyr 2024 i roi manylion gwariant a rheolaethau ariannol o fewn y portffolio Asedau. Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Waith, fel y’i diwygiwyd; a
(b) Rhoi awdurdod i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.