Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar 2022-2025
Cyfarfod: 17/10/2023 - Cabinet (eitem 71)
Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar 2022-2025
Pwrpas: Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar (cam 2) arfaethedig, fel bod modd cyflwyno Achos Cyfiawnhau Busnes i Lywodraeth Cymru i ryddhau arian Cyfalaf ar gyfer y prosiectau a nodwyd.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad a oedd yn amlinellu’r prosiectau arfaethedig ar gyfer cam 2 rhaglen gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar. Roedd y prosiectau o fewn y rhaglen wedi cael eu blaenoriaethu yn defnyddio meini prawf cyllid Llywodraeth Cymru ac Asesiadau o Ddigonolrwydd Gofal Plant.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r rhaglen gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar (cam 2) arfaethedig, fel bod modd cyflwyno Achos Cyfiawnhau Busnes i Lywodraeth Cymru i ryddhau arian cyfalaf.