Mater - cyfarfodydd

Budget 2024/25 – Stage 2

Cyfarfod: 11/10/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 39)

39 Cyllideb 2022/23 - Cam 2 pdf icon PDF 103 KB

Pwrpas:        Adolygu a rhoi sylwadau ar bwysau ariannol ac gostyngiadau mewn costau dan gylch gwaith y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol – Strategaeth Ariannol ac Yswiriant adroddiad a oedd yn cynnwys adolygiad a sylwadau yngl?n â’r gwasgfeydd cyllidebol a gostyngiadau mewn costau a oedd yn rhan o gylch gwaith y Pwyllgor.  Rhoes gyflwyniad ynghylch y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a threfn Gosod Cyllideb 2024/25 a oedd yn ymdrin â’r materion canlynol:

 

  • pwrpas a chefndir
  • gofynion ychwanegol ar gyllideb y Cyngor 2024/25
  • gofynion ychwanegol ar y gyllideb – risgiau parhaus
  • y sefyllfa gyffredinol wedi’r datrysiadau cychwynnol
  • crynodeb a chasgliadau
  • y camau nesaf ar gyfer trefn Gosod Cyllideb 2024/25
  • trefn y gyllideb – Cam 2
  • trefn y gyllideb – Cam 3 (Terfynol).

 

Rhoes y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) gyflwyniad yngl?n â gwasgfeydd costau a oedd yn ymdrin â’r materion canlynol:

 

  • Y galw oherwydd digartrefedd
  • Budd-daliadau – Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor

 

Dywedodd y Cynghorydd David Evans bod yr adroddiad yn sôn am y cynnig i ostwng y gyllideb ar gyfer Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor, ond nad oedd unrhyw ddewisiadau ar gyfer lleihau’r gwasgfeydd costau wrth ateb y galw oherwydd digartrefedd.  Gan fod Gweinidog Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi dweud nad oedd unrhyw gynlluniau i ddarparu llety i fewnfudwyr yng Ngwesty Northop Hall, awgrymodd y Cynghorydd y gellid ystyried cysylltu â’r gwesty i holi a fedrent roi llety i bobl ddigartref er mwyn lleihau’r wasgfa ar y gyllideb.  Eglurodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) y byddai adroddiad yn dod gerbron y Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf yngl?n â’r dewisiadau ar gyfer lleihau’r gwasgfeydd costau oherwydd digartrefedd.  Roedd nifer o ddewisiadau dan ystyriaeth, gan gynnwys defnyddio’r stoc tai presennol yn fwy effeithlon, a byddai’r adroddiad i’r Pwyllgor yn cynnwys yr holl ddewisiadau hynny.

 

Mewn ymateb i awgrym y Cynghorydd Evans, dywedodd y Cynghorydd Linda Thew nad oedd ond 37 o ystafelloedd yng Ngwesty Northop Hall a bod y cynlluniau i roi llety i fewnfudwyr yno’n cynnwys gosod cabanau ychwanegol yng ngerddi’r gwesty.  Eglurodd hefyd bod y gwesty’n dal i weithredu fel busnes a dywedodd na fyddai’n dymuno gweld pobl ddigartref yn cael eu rhoi mewn cabanau.  Eglurodd y Cynghorydd Evans nad oedd yn awgrymu rhoi pobl mewn cabanau.

 

Cytunodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin â sylwadau’r Cynghorydd Evans, gan ddweud bod yn rhaid i’r Cyngor ystyried yr holl ddewisiadau er mwyn lleihau’r gwasgfeydd costau oherwydd digartrefedd a bod yn rhaid i’r holl Aelodau fod yn ymwybodol o’r tai yn eu wardiau y gellid ystyried eu defnyddio.  Cyfeiriodd hefyd at y gwasgfeydd costau oherwydd Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir a gofynnodd a ellid darparu gwybodaeth am y lleoliadau yn y flwyddyn flaenorol.  Awgrymodd y Rheolwr Cyllid Strategol y gellid rhannu’r wybodaeth ar ôl y cyfarfod.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson a oedd y Cyngor wedi cynnal trafodaethau â pherchnogion Gwesty Northop Hall.  Pryderai yngl?n â gosod atebolrwydd cyfreithiol ar y gwesty, ac a fyddai’r Cyngor yn gyfrifol am bobl ddigartref a gâi lety yno, yn ogystal â’r costau.  Roedd o’r farn y dylai’r Pwyllgor ystyried unrhyw gynigion cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.

 

Dywedodd y Rheolwr  ...  view the full Cofnodion text for item 39