Mater - cyfarfodydd

Draft Stewardship Code Submission

Cyfarfod: 30/08/2023 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 69)

69 Cyflwyniad Cod Stiwardiaeth Drafft pdf icon PDF 135 KB

Darparu cyflwyniad Cod Stiwardiaeth Drafft i Aelodau’r Pwyllgor ar gyfer ei ystyried ac i ddirprwyo cymeradwyaeth y fersiwn terfynol i Bennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Eglurodd y Cadeirydd fod y Gronfa llynedd wedi’i derbyn fel llofnodwr i’r cod stiwardiaeth newydd a bod hynny’n gydnabyddiaeth ffurfiol o’r gwaith sy’n cael ei wneud gan y Gronfa o ran stiwardiaeth asedau. Cynigir bod y Gronfa yn ailymgeisio eleni er mwyn cynnal y statws llofnodi.

            Eglurodd Mr Dickson fod yr adroddiad stiwardiaeth bellach yn cynnwys pob dosbarth o asedau. Ar dudalen 225 amlygodd y 12 egwyddor y mae’r Gronfa yn eu defnyddio i adrodd yn erbyn y cod stiwardiaeth, ac eglurodd fod yr adroddiad wedi’i osod i fynd i’r afael â phob egwyddor. Mae’r Gronfa wedi cynnwys adborth manwl FRC ar gyflwyniad y flwyddyn flaenorol yn yr adroddiad drafft. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r cod yw 23 Hydref 2023, cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor ac felly gofynnir i’r Pwyllgor ddarparu unrhyw adborth ac awgrymu newidiadau, a dirprwyo awdurdod i Bennaeth y Gronfa gymeradwyo’r fersiwn derfynol. Dywedodd y bydd unrhyw newid i’r polisi Buddsoddiad Cyfrifol yn ystod y cyfarfod hwn yn cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad stiwardiaeth terfynol i ddangos sut mae’r Gronfa yn parhau i wneud cynnydd ac adrodd ar y cyfnod sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2023.

PENDERFYNWYD:

a)    Ystyriodd y Pwyllgor gynnwys y Cod Stiwardiaeth drafft a gwneud sylwadau arno.

b)    Dirprwyodd y Pwyllgor gyfrifoldeb ar gyfer cymeradwyo’r cyflwyniad terfynol i Bennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd.