Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme and Action Tracking (C&H OSC)

Cyfarfod: 15/11/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 46)

46 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol i’w hystyried a dywedodd fod y Rhaglen wedi’i diweddaru gydag adroddiadau ychwanegol ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol, yn dilyn cyfarfod gyda’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd ar ôl y cyfarfod blaenorol. 

 

O ran y gweithdy arfaethedig i’r holl Aelodau ar adsefydlu a cheisio lloches, dywedodd yr Hwylusydd fod gweithdy wedi’i drefnu ar gyfer 23 Tachwedd, 2023. 

 

Rhoddodd yr Hwylusydd y wybodaeth ddiweddaraf am y camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol hefyd, a dywedodd fod mwyafrif y camau gweithredu wedi’u cwblhau. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ted Palmer dderbyn yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliodd y Cynghorydd David Evans y cynnig hwnnw.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; ac

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu gofynnol.