Mater - cyfarfodydd

Costau Byw a Diwygio Lles

Cyfarfod: 12/07/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 21)

21 Costau Byw a Diwygio Lles pdf icon PDF 161 KB

Pwrpas:        Darparu diweddariad gweithredol cyfun i’r Pwyllgor ar effaith ymateb y diwygiadau lles diweddaraf a chynlluniau costau byw i gefnogi preswylwyr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Uwch Reolwr (Tai, Lles a Chymunedau) ddiweddariad ar yr effeithiau sy’n parhau gyda diwygiadau lles a thrafododd y gwaith parhaus i liniaru’r gwaith sy’n parhau i gefnogi aelwydydd trigolion Sir y Fflint.  Ychwanegodd fod treth ystafelloedd gwely yn dal i gael effaith yn Sir y Fflint ynghyd â'r diffyg cartrefi llai sydd ar gael i drigolion sy’n dymuno symud i gartrefi llai hefyd.

 

Trafododd y canlynol hefyd, fel yr amlinellir yn yr adroddiad:-

 

·         Uchafswm Budd-daliadau

·         Cynllun Cymorth Costau Byw

·         Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf 2022/23

·         Cynllun Cymorth Biliau Ynni

·         Taliadau Tanwydd Amgen

·         Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd

·         Grant Hanfodion Ysgol

·         Cymorth Lles

·         Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai (DHP)

 

Aeth yr Uwch Reolwr (Tai, Lles a Chymunedau) ymlaen i drafod cymhwyster a chyllid ar gyfer prydau ysgol am ddim a’r ffordd y maent yn gweithio gydag ysgolion i roi cyhoeddusrwydd i’r grant amddifadedd disgyblion, a hefyd sut y byddent yn ceisio awtomeiddio taliadau mewn perthynas â’r grant gwisg ysgol ar gyfer pob blwyddyn ysgol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd David Evans at Gynllun Tanwydd y Gaeaf a mynegodd ei bryderon nad oedd pob preswylydd yn manteisio ar y cynllun.  Gofynnodd faint o breswylwyr a oedd yn dal heb drefnu i dalu trwy Ddebyd Uniongyrchol.  Dywedodd yr Uwch Reolwr (Tai, Lles a Chymunedau) fod y tîm yn rhoi anogaeth gadarnhaol i aelwydydd i fanteisio ar y cynllun, gyda rhai'n cael eu credydu'n ôl drwy eu cyfrifon Treth y Cyngor.  Ychwanegodd mai Sir y Fflint oedd â'r nifer fwyaf o bobl yng Nghymru yn manteisio ar y cynllun ac anogodd y Cynghorwyr i rannu ffyrdd o ymgysylltu â thenantiaid.

 

Mewn ymateb i gwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin, dywedodd yr Uwch Reolwr (Tai, Lles a Chymunedau) nad oedd yn meddwl bod modd olrhain hawlwyr DHP mewn perthynas â threth ystafelloedd gwely dros y cyfnod o amser a awgrymwyd.  O ran prydau ysgol am ddim, cytunodd y gallai'r broses hawlio fod yn anodd a dywedodd fod angen codi ymwybyddiaeth o sut mae hyn yn effeithio ar ysgolion ac ategodd pa mor bwysig oedd gwneud hawliad. 

 

Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn llwyr gefnogi'r Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai a fydd, meddai hi, yn parhau hyd y gellir rhagweld.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Bernie Attridge ei sylwadau gan ddweud bod yr adroddiad yn dda ond na ddylai'r Cyngor golli golwg ar yr holl bobl ddiamddiffyn ledled Sir y Fflint sy'n cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw a diwygio’r gyfundrefn les.

 

Cafodd yr argymhellion, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Tina Claydon a’u heilio gan y Cynghorydd David Evans.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith parhaus o reoli’r effeithiau y mae diwygio’r gyfundrefn les wedi’i gael, ac yn parhau i’w gael, ar rai o’r preswylwyr mwyaf diamddiffyn; a

 

(b)          Bod y Pwyllgor yn nodi'r mesurau cymorth a roddwyd ar waith drwy Lywodraeth Cymru i liniaru'r argyfwng costau byw.