Mater - cyfarfodydd
Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid
Cyfarfod: 13/07/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 15)
15 Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint 2023-2026 PDF 367 KB
Cyflwyno’r Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid, er gwybodaeth.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Youth Justice Plan, eitem 15 PDF 76 KB
- Enc. 2 for Youth Justice Plan, eitem 15 PDF 12 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint 2023-2026
Cofnodion:
Darparodd yr Uwch Reolwr, Cyfiawnder Ieuenctid a Sorted Sir y Fflint drosolwg o'r gwaith statudol a wneir gan y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn Sir y Fflint. Roedd y Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid Blynyddol ynghlwm wrth y Cynllun yr oedd angen ei gyflwyno i'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn flynyddol. Roedd y Cynllun yn ymgorffori’r weledigaeth a rennir gan Lywodraeth Cymru (LlC) a’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ‘Plant yn Gyntaf’ a sefydliad sy’n Ystyriol o Drawma gyda chymorth partneriaid yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Glynd?r. Roedd y gwasanaeth wedi bod yn rhan o gynllun peilot yng Nghymru o’r blaen gan ddefnyddio’r Model sy’n Ystyriol o Drawma drwy’r peilot Rheoli Achosion Uwch, ac roedd hyn yn adeiladu ar lwyddiant y peilot a’r canlyniadau cadarnhaol a gafwyd. Roedd y gwasanaeth am sicrhau bod cyfranogiad o fewn yr amcanion strategol gweithredol yn galluogi lleisiau'r plant a'r bobl ifanc i gael eu clywed er mwyn llywio cyfeiriad, dulliau ac adnoddau'r gwasanaeth wrth symud ymlaen. Roedd y rhain wedi'u cynnwys yn y Strategaeth Cyfranogiad y cytunwyd arni y llynedd, ac roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am ganlyniadau'r plant a'r bobl ifanc a ddaeth i'r System Cyfiawnder Troseddol a'r cymorth a gawsant gan y tîm ymroddedig.
Bu newidiadau hefyd yn y math o droseddau a gyflawnwyd y llynedd gyda phandemig Covid yn effeithio ar y data yr oedd modd ei gasglu. Bu gostyngiad mewn troseddau trefn gyhoeddus, cynnydd mewn troseddau lladrad ond trais oedd y prif drosedd o hyd a rhoddwyd blaenoriaeth ychwanegol iddo. Roedd hyn yn cyd-fynd â’r Ddyletswydd Trais Gwasanaeth statudol a’r Cynllun Gweithredu Ieuenctid ynghylch trais ac roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd i asio hyn â’r Strategaeth Trais Difrifol. Roedd trais difrifol yn cyfeirio at gyfran fechan o'r garfan ond yn parhau i fod yn bryder. Pryder arall i’r gwasanaeth oedd y defnydd cynyddol o’r ddalfa a remand, gyda’r cyfraddau yn Sir y Fflint yn parhau’n eithaf isel ond bu cynnydd bychan o fewn y 12 mis diwethaf a oedd yn ymwneud â throseddau mwy difrifol. Fel gwasanaeth roedd defnyddio’r ddalfa yn cael ei weld fel y dewis olaf ond yn anffodus mewn rhai amgylchiadau roedd yn rhaid ei ddefnyddio gan fod heriau o gwmpas y sector gofal cymdeithasol ar gyfer lleoliadau priodol i blant a phobl ifanc. Roedd angen cydbwysedd rhwng cefnogi person ifanc a chadw'r gymuned yn ddiogel.
Adroddodd yr Uwch Reolwr ar gynlluniau'r gwasanaeth ar gyfer y dyfodol a'r effeithiau ar y garfan i sicrhau eu bod i gyd yn cael profiad cadarnhaol ynghyd â mynd i'r afael â materion anghymesuredd o fewn y System Cyfiawnder Troseddol ehangach.
Wrth amlinellu'r heriau ar gyfer y flwyddyn i ddod, roedd yr adroddiad yn amlinellu'r goblygiadau o ran adnoddau a'r ffordd unigryw y derbyniodd y gwasanaeth arian grant. Darparwyd hyn gan LlC, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a phartneriaid statudol fel yr Heddlu, y Gwasanaeth Prawf, Iechyd a gwasanaethau eraill. Eglurodd yr Uwch Reolwr sut yr oedd yr arbedion effeithlonrwydd a’r heriau costau byw a wynebwyd ... view the full Cofnodion text for item 15