Mater - cyfarfodydd

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig - Cyllideb 2024/25

Cyfarfod: 18/07/2023 - Cabinet (eitem 22)

22 Strategaeth Ariannol Tymor Canolig Cyllideb 2024/25 pdf icon PDF 136 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer y gofyniad ychwanegol cyllideb 2024/25 a’r strategaeth ac amserlen y gyllideb sy’n datblygu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac eglurodd bod y Cyngor yn adolygu ac yn diweddaru’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn flynyddol.  Mae’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn rhagweld yr adnoddau y byddai’r Cyngor eu hangen i fodloni ei sail costau, sy’n newid yn gyson, ar gyfer y blynyddoedd i ddod.  Mireinio’r rhagolygon oedd y cam cyntaf i gynllunio’r gofynion cyllidebol ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol.

 

Yn dilyn y gofyniad cyllidebol a ragwelwyd ar y cychwyn, roedd y rhagolygon ar gyfer 2024-25 wedi eu diweddaru i ystyried y sefyllfa genedlaethol ddiweddaraf ar dâl y sector cyhoeddus, yr effaith a amcangyfrifir o ran y newidiadau i’r galw ar wasanaethau ac effeithiau parhaus chwyddiant.  Roedd y rhagolygon a ddiwygiwyd yn dangos, ar y cyfnod cynnar hwn, fod yna ofyniad cyllidebol ychwanegol o £32.222 miliwn yn debygol o fod ar gyfer 2024/25.

 

Wedi ei atodi i’r adroddiad roedd manylion yr holl bwysau costau ar gyfer 2024-25 yn ogystal ag arwyddion cynnar o bwysau ar gyfer 2025/26 a 2026/27.

 

Roedd gweithdy ar gyfer yr holl Aelodau wedi ei drefnu i’w gynnal ar 31 Gorffennaf i alluogi Aelodau i gael gwell dealltwriaeth o’r sefyllfa ariannol ac i gyfrannu at ddatblygu strategaeth y gyllideb.

 

Roedd angen datblygu strategaeth gyllideb fanwl ar frys yn gyfochrog â chyfrannu at drafodaethau cenedlaethol ar y rhagolygon ariannol ar draws Cymru gan gynnwys unrhyw ddewisiadau oedd ar gael i gynyddu’r cwantwm cyffredinol sydd ar gael ar gyfer llywodraeth leol.

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol wybodaeth ychwanegol ar y rhesymau dros y cynnydd yng ngofyniad y gyllideb.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod yr adroddiad wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol ac ni wnaed unrhyw sylwadau.

 

Roedd amlinelliad o amserlen y gyllideb wedi’i nodi yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Fod y wybodaeth ddiweddaraf ar y gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25 yn cael ei dderbyn; ac y

 

(b)          Cytunir ar y broses a’r amserlen ar gyfer gosod y gyllideb ar gyfer 2024/25.