Mater - cyfarfodydd

Council Tax Discretionary (s13a) Discounts/Write Offs

Cyfarfod: 13/07/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 17)

17 Gostyngiadau Dewisol (a13a) Dileu Treth y Cyngor pdf icon PDF 143 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybodaeth am ostyngiadau dewisol Treth y Cyngor, y meini prawf polisi cyfredol a’r amgylchiadau (gyda dadansoddiad ystadegol) pan fo eisoes angen i’r Cyngor ddileu symiau Treth y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael yr adroddiad ar faen prawf ac amgylchiadau presennol polisi (gyda dadansoddiad ystadegol) lle'r oedd y Cyngor eisoes wedi cyflwyno gostyngiadau dewisol neu ddileu cyfansymiau Treth y Cyngor, yn dilyn cais gan y Cynghorydd Alasdair Ibbotson.  Roedd y fframwaith Polisi Adfer Dyledion Corfforaethol a fabwysiadwyd yn 2019 yn cynnwys mesurau cymesurol i gefnogi’r rheiny mewn angen a chafodd ei danategu gan brosesau rheoli incwm effeithiol a oedd yn hanfodol ar gyfer cyflawni amcanion cyffredinol y Cyngor oherwydd yr effaith o Dreth y Cyngor heb ei gasglu ar y gyllideb ehangach a chynnydd mewn Treth y Cyngor yn y dyfodol   Fel pwynt o gywirdeb o ran dadansoddi’r diddymiadau, cadarnhawyd fod dyledion wedi’u hailgyfeirio at Lys yr Ynadon yn ystod camau cyfreithiol traddodi yn 2022/23 a ddaeth i gyfanswm o £26,543 gyda £35,668 yn cynrychioli’r cyfanswm ar gyfer trefniadau gwirfoddol unigol.

 

Yn ogystal â deddfwriaeth statudol, roedd pwerau dewisol Adran 13A yn cynnig hyblygrwydd i gynghorau gyflwyno cynlluniau gostyngiadau lleol mewn achosion eithriadol.   Ar wahân i Gynllun Gostyngiad Treth y Cyngor Gofalwyr Maeth Awdurdod Lleol, y polisi yn Sir y Fflint yw defnyddio ei bwerau A13A lle mae eithriadau/gostyngiadau Treth y Cyngor eraill wedi cael eu defnyddio a dim ond mewn achosion o drychinebau naturiol ac argyfyngau sifil. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson ei bryderon er bod preswylwyr yn cael eu cyfeirio at y gefnogaeth briodol, bod y geiriad yn y polisi presennol ar ostyngiadau dewisol yn rhy eang a ddim yn cynnwys arweiniad eglur.  Awgrymodd bod y Pwyllgor hwn a’r Cabinet yn ystyried cyhoeddi arweiniad polisi eglur i helpu preswylwyr ac i roi syniad o’r lefelau o ostyngiad y dylid ei ddisgwyl gan rywun sydd wedi cael ei ddewis i wneud penderfyniad, er mwyn dangos tryloywder.

 

Hefyd dywedodd efallai y bydd yna nifer fechan o achosion ansolfedd gyda’r Cyngor yn brif gredydwr a bod yr unigolion hynny o bosib ymysg y preswylwyr mwyaf diamddiffyn ac yn debygol o wneud cais am Orchymyn Rhyddhad Dyledion a oedd hefyd yn golygu ffi weinyddol ychwanegol.   Fel ffordd arall i fynd o’i chwmpas hi fe awgrymodd y gellir dod i gytundeb gyda’r unigolion hynny i dalu rhan o gost y ffi i’r Cyngor gyda’r balans o’r ddyled yn cael ei dileu trwy gais A13A.  Byddai hyn yn golygu bod y Cyngor yn adennill cyfanswm bychan ychwanegol ac yn lleihau costau i’r sefydliad partner o ran symud ymlaen gyda’r Gorchymyn Rhyddhad Dyledion ac felly’n lleihau’r baich ariannol ar y trethdalwr.

 

Ar y sail hynny cynigodd bod y Cabinet yn adolygu ac yn llunio polisi cynhwysfawr ar a13A gan gymryd i ystyriaeth y sylwadau a godwyd yma ac i ymgynghori ar y polisi gyda Throsolwg a Chraffu.

 

Cefnogodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael y cynnig ar gyfer gwell eglurder ar y meini prawf polisi ar gyfer gostyngiadau dewisol.  Wrth ymateb i’r ail awgrym dywedodd fod dadansoddiad diweddar o sampl o geisiadau DRO ar gyfer Treth y Cyngor wedi nodi nad oedden nhw’n bodoli lle mai’r Cyngor oedd yr unig gredydwr.  Aeth ymlaen  ...  view the full Cofnodion text for item 17