Mater - cyfarfodydd

Access Barrier Review – Wales Coast Path

Cyfarfod: 11/07/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 20)

20 Adolygu Rhwystr Mynediad – Llwybr Arfordir Cymru pdf icon PDF 96 KB

Hysbysu aelodau am adolygiad diweddar i rwystrau mynediad ar hyd Llwybr Arfordir Cymru (Rhan Caer i Lannau Dyfrdwy) a cheisio eu cymeradwyaeth i weithredu’r argymhellion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad i hysbysu'r adolygiad diweddar i rwystrau mynediad ar draws Llwybr Arfordir Cymru (Adran Caer i Lannau Dyfrdwy) a cheisio cymeradwyaeth i weithredu’r argymhellion. 

 

Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif ystyriaethau ac argymhellion arfaethedig, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  Eglurodd fod y Cyngor wedi penodi ymgynghorydd i gynnal adolygiad o’r mesurau rheoli mynediad presennol ar waith ar adran o Lwybr Arfordir Cymru (LlAC) rhwng Caer a Queensferry.  Roedd y rhwystrau rheoli mynediad ar waith i ddiogelu defnyddwyr LlAC yn erbyn y perygl a gyflwynir gan fynediad cerbyd anghyfreithlon i’r llwybr, fodd bynnag, mae’r rhwystrau presennol yn gallu achosi materion mynediad i ddefnyddwyr rhai sgwteri symudedd a beiciau anghonfensiynol.  Roedd yr astudiaeth yn adolygu’r cyd-destun cefndir, deddfwriaethau, dimensiynau rhwystr a chyfyngiadau defnyddwyr er mwyn cyflwyno argymhellion ar gyfer pob un o’r 14 pwynt mynediad o Gaer i Lannau Dyfrdwy.   Yr argymhellion i wella mynediad yn cael ei gydbwyso yn erbyn unrhyw effaith addasiadau o’r fath ar hygyrchedd cerbydau anghyfreithlon.

 

Ymatebodd swyddogion i’r sylwadau a’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Richard Lloyd yngl?n â rhwystrau mynediad, mynediad i’r anabl, sgwteri symudedd, sgwteri trydan, allweddi radar a defnydd anghyfreithlon a gwrth-gymdeithasol.   

 

Roedd y Cynghorydd Glyn Banks hefyd yn codi pryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol a brawychus gan rai defnyddwyr/grwpiau yn ardal Talacre oedd yn difetha mwynhad llwybr yr arfordir i eraill.  

 

Roedd y Cynghorydd Mike Peers yn argymell fod y Cyngor yn ymgysylltu gyda’r grwpiau defnyddwyr y cyfeirir atynt yn yr Adolygiad.    Hefyd, gofynnodd a oedd yna gysylltiad gydag awdurdodau lleol eraill i ddysgu sut oedden nhw yn mynd i’r afael â materion problemus.   Eglurodd yr Arweinydd Tîm - Safleoedd bod yna gysylltiadau agos gydag Awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru fel rhan o Lwybr yr Arfordir Gogledd Cymru.  Dywedodd fod gan Gyfoeth Naturiol Cymru gyfrifoldeb cyffredinol am Lwybr yr Arfordir ac roedd yn gweithio i wella’r llwybr troed i bobl gyda materion symudedd.     Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cefnogi argymhellion yn adroddiad yr Adolygiad i wella hygyrchedd.   

 

Roedd y Cynghorydd Dan Rose yn mynegi pryderon am ddiben a gweithrediad allweddi radar oedd yn dweud a allai fod yn rhwystr i rai defnyddwyr.   Roedd yn teimlo fod y defnydd o fframiau A a’r syniad o bobl gydag anableddau yn gorfod agor a chau giât bob tro yn gallu bod yn broblemus.  Dywedodd fod yna risg o bobl yn gadael giatiau yn agored gydag allweddi radar ac roedd yn teimlo ei fod yn bwysig cynnal peilot i asesu goblygiadau wrth symud ymlaen.   Awgrymodd mai datrysiad dros dro ar gyfer problemau oedd yn codi yn annisgwyl oedd bod giât yn cael ei chloi dros dro (er enghraifft dros nos).  Gofynnodd y Cynghorydd Rose a ellir darparu data ar y nifer o lwybrau nad oedd yn caniatáu mynediad i’r anabl.  

 

Ymatebodd yr Arweinydd Tîm - Safleoedd i’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Rose ar y defnydd o allweddi radar a dywedodd y byddai’n darparu gwybodaeth ar y nifer o  ...  view the full Cofnodion text for item 20