Mater - cyfarfodydd
Rheoli Cartrefi Gwag
Cyfarfod: 12/07/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 25)
25 Rheoli Cartrefi Gwag PDF 124 KB
Pwrpas: Rhoi diweddariad pellach ar ddarparu a rheoli cartrefi gwag.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai y ffigyrau allweddol a’r gweithgareddau allweddol yn ôl y Cynllun Gweithredu ar Gartrefi Gwag, fel yr amlinellir yn y nodyn briffio.
Amlinellodd nifer y tai gwag newydd a'r rhai oedd wedi'u cwblhau a dywedodd fod 30 eiddo wedi'u cwblhau yn barod i'w dyrannu.
O ran y gweithgareddau allweddol a oedd yn cael eu cwblhau yn erbyn y cynllun gweithredu ar gartrefi gwag a’r camau nesaf, amlinellwyd y canlynol gan y
Rheolwr Gwasanaeth:-
- Dyrannu gwaith i gontractwyr sydd newydd eu comisiynu yn unol â'u gallu
i gyflawni;
- Cyfarfodydd cynnydd wedi'u trefnu dros y 12 mis nesaf i fonitro perfformiad
ac ansawdd;
- Trefnu cyfarfodydd Perfformiad Contractwyr ar gyfer y 12 mis nesaf - i fonitro
amseroedd targed, ansawdd y gwaith, capasiti, a pherfformiad cyffredinol;
- Byddai pob cyfarfod yn cael ei gofnodi i werthuso a darparu tystiolaeth barhaus o
safonau perfformiad.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Asedau hefyd fod y Cyngor wedi cael £585,000 o gyllid y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro (TACP) i'w ddefnyddio tuag at eiddo gwag mawr.
Roedd y Cynghorydd David Evans yn croesawu nifer yr eiddo a gwblhawyd yn barod i'w dyrannu a dywedodd bod hynny’n gadarnhaol. Dywedodd ei fod, ynghyd â'r Cynghorydd Ron Davies, wedi cyfarfod â phreswylwyr yn ddiweddar a gofynnodd pam na ellid cwblhau eiddo llai i'w gosod yn gynt. Ailadroddodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Asedau, mai’r ôl-groniad hanesyddol oedd y rheswm gydag 1 contractwr yn unig yn y gorffennol, ond cadarnhaodd y dylai gwaith ar eiddo gael ei gwblhau'n gynt gyda nifer y contractwyr newydd sydd ganddynt. Ychwanegodd y dylai Aelodau ddisgwyl cyfnod o 6 – 8 wythnos ar gyfer gwaith mawr.
Yn dilyn awgrym gan y Cynghorydd Evans, cytunwyd y dylid dosbarthu'r nodyn briffio rheoli eiddo gwag i'r Pwyllgor yn ystod gwyliau mis Awst.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Marion Bateman, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Asedau fod ansawdd a safon y gwaith gan y contractwyr newydd wedi bod yn dda ac y byddent yn parhau i gael eu monitro.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Linda Thew, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Asedau y byddai'r contractwyr yn parhau i weithio drwy wyliau'r haf.
Argymhellodd y Cynghorydd David Evans fod yr wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei nodi. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Tina Claydon.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf.