Mater - cyfarfodydd
Rheoli Cartrefi Gwag
Cyfarfod: 17/05/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 6)
6 Rheoli Cartrefi Gwag PDF 117 KB
Pwrpas: Rhoi diweddariad pellach ar ddarparu a rheoli cartrefi gwag.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) yr wybodaeth ddiweddaraf am Reoli Cartrefi Gwag fel y dangosir ar y rhaglen. Yr oedd y diweddariad yn darparu ffigyrau allweddol am y nifer o eiddo gwag a’r gweithgareddau allweddol yn ôl y Cynllun Gweithredu ar Unedau Gwag. Byddai’r Pwyllgor yn parhau i dderbyn yr wybodaeth hon yn fisol, a bydd adroddiad ffurfiol ar unedau gweigion yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Medi.
Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai y ffigyrau allweddol a’r gweithgareddau allweddol yn ôl y Cynllun Gweithredu ar Unedau Gwag, fel yr amlinellir yn y nodyn briffio.
Amlinellodd y nifer o unedau gweigion newydd a’r rheiny a oedd wedi eu cwblhau. O fis Mawrth, derbyniwyd 26 eiddo gwag, a chwblhawyd 23 eiddo, a oedd wedi eu cwblhau cyn penodi contractwyr newydd i’r gwasanaeth. O fis Ebrill, derbyniwyd 24 eiddo gwag a chwblhawyd 18. Cafwyd oedi o ganlyniad i absenoldebau ac oedi wrth ardystio. Cwblhawyd mwy o unedau gweigion, ond oherwydd oedi wrth ardystio nid oeddynt wedi eu cymeradwyo eto.
Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth hefyd nifer yr eiddo a oedd angen gwaith mawr a’r rheiny a oedd angen mân waith, ynghyd â’r galw am yr eiddo.
Mewn perthynas â’r gweithgareddau allweddol yn ôl y Cynllun Gweithredu ar Unedau Gwag, amlinellwyd y canlynol gan y Rheolwr Gwasanaeth:-
· Yr oedd y Gwasanaeth wedi cyfarfod â’r holl gontractwyr a oedd newydd eu comisiynu;
· Cynhaliwyd 6 o’r 6 chyfarfod cyn-gontract gyda’r contractwyr newydd;
· Yr oedd y gwaith o arwyddo contractwyr bron wedi ei gwblhau;
· Dechreuwyd arolwg o gyflwr y stoc ym mis Hydref 2022;
· Dyrannwyd adnoddau ychwanegol i gynnal arolygon o gyflwr y stoc;
· Yr oedd y Cydlynydd Hyfforddiant bellach yn ei swydd;
· Yr oedd y Cydlynydd yn trefnu’r holl hyfforddiant craidd angenrheidiol am y 12 mis nesaf.
Tynnwyd sylw’r Pwyllgor gan y Rheolwr Gwasanaeth at yr wybodaeth am y gyllideb a’r 3 phrif reswm dros derfynu tenantiaeth – gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor am hyn mewn cyfarfodydd blaenorol.
Gwnaeth y Cynghorydd David Evans sylw am nifer yr eiddo gwag, a oedd wedi cynyddu ym mis Ebrill o’i gymharu â mis Mawrth, a gofynnodd a fyddai’r Pwyllgor yn gweld y ffigwr hwn yn gostwng yn y misoedd i ddod. Dywedodd fod angen dod â mwy o eiddo gwag i gael ei ddefnyddio eto er mwyn gallu ymdopi â’r sefyllfa bresennol. Gofynnodd hefyd am i’r wybodaeth ganlynol gael ei darparu mewn diweddariadau briffio yn y dyfodol:-
- Gwybodaeth yngl?n â’r math o ystafelloedd gwely oedd yn yr eiddo a oedd dod yn wag, ochr yn ochr â dadansoddiad o gyfanswm ffigyrau unedau gweigion;
- Y math o eiddo yr oedd tenantiaid yn mynd i fyw iddynt wrth drosglwyddo i eiddo arall gan Gyngor Sir y Fflint;
- Ardaloedd daearyddol eiddo gwag.
Gwnaeth y Rheolwr Gwasanaeth sylw am y cynnydd mewn eiddo gwag, ac atgoffodd y Pwyllgor mai newydd eu penodi oedd y contractwyr newydd a gomisiynwyd. Ailadroddodd ei sylwadau blaenorol na ellid rhuthro’r broses ac y gallai nifer yr eiddo gwag gynyddu cyn dechrau gostwng yn gyson. Parthed y ... view the full Cofnodion text for item 6