Mater - cyfarfodydd

HyNet Carbon Capture Project; The Council's Local Impact Report for the Proposed Cross Country Carbon Dioxide Pipeline and Continued Member Engagement

Cyfarfod: 25/04/2023 - Cabinet (eitem 157)

157 Prosiect Dal Carbon HyNet; Adroddiad Effaith Lleol y Cyngor ar gyfer Piblinell Carbon Deuocsid arfaethedig traws gwlad pdf icon PDF 114 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo’r Adroddiad Effaith Lleol drafft a dirprwyo unrhyw fersiynau/atodiadau pellach allai fod eu hangen yn ystod y broses archwilio’r Biblinell Carbon Deuocsid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad ac esboniodd bod cwmni Liverpool CCS Limited yn bwriadu adeiladu a gosod piblinell carbon deuocsid newydd rhwng Ince, ger Stanlow, a’r Fflint, a rhoi ail bwrpas i biblinell nwy naturiol bresennol rhwng y Fflint a Thalacre.  Enw’r prosiect hwnnw oedd Piblinell Carbon Deuocsid y Gogledd-orllewin HyNet (HyNet North West Carbon Dioxide Pipeline) ac roedd yn cael ei ystyried yn Brosiect Isadeiledd Sylweddol Cenedlaethol (NSIP).

 

Roedd y broses gymeradwyo yn wahanol ar gyfer Prosiect Isadeiledd Sylweddol Cenedlaethol, a gwnaed cais o dan Ddeddf Cynllunio 2008 am ganiatâd sy’n cael ei alw’n Orchymyn Caniatâd Datblygu (DCO).

 

Roedd y cais i adeiladu a gweithredu'r Biblinell Carbon Deuocsid arfaethedig wedi'i gyflwyno i'r Arolygiaeth Gynllunio (Lloegr) a fyddai'n gweinyddu'r cais DCO ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.

 

Dechreuwyd archwiliad o’r cynnig NSIP ar 20 Mawrth 2023.  Rhan o rôl yr Awdurdod Lleol i lywio’r broses benderfynu oedd llunio Adroddiad Effaith Leol i gynorthwyo’r Awdurdod Archwilio i wneud argymhelliad i’r Gweinidog.

 

Roedd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i gynnwys Adroddiad Effaith Lleol drafft y Cyngor a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Ynghlwm wrth yr adroddiad roedd yr adroddiad effaith lleol a map o leoliad y biblinell.

 

Diolchodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi) a'r Cynghorydd Roberts i'r Rheolwr Cynllunio Mwynau a Gwastraff am ei holl waith ar y prosiect a chroesawyd yr elfen budd cymunedol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo'r Adroddiad Effaith Lleol drafft; a

 

(b)       Bod unrhyw atodiad i Adroddiad Effaith Lleol y Cyngor y gallai fod ei angen yn cael ei ddirprwyo i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd.