Mater - cyfarfodydd

Penodi Person Lleyg i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Cyfarfod: 04/05/2023 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 104)

104 Penodi Person Lleyg i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf icon PDF 79 KB

Pwrpas:        Diweddaru'r Aelodau ar ail-benodi person lleyg i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ac eglurodd fod gofyn i’r Cyngor, dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, sicrhau bod 1/3 o aelodau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn Aelodau Lleyg.

 

Roedd tymor un o’r Aelodau Lleyg presennol yn dod i ben ym mis Mai 2023, yn dilyn pum mlynedd ar y pwyllgor. Roedd yr Aelod Lleyg yn fodlon gwasanaethu am dymor arall os oedd y Cyngor yn barod i’w hail benodi.

 

Cafodd Sally Ellis ei phenodi gan y Cyngor ym mis Mai 2017 am gyfnod o bum mlynedd. Felly roedd ei chyfnod yn y swydd yn dod i ben ym mis Mai 2022. Roedd wedi bod yn aelod diwyd a gweithgar o’r Pwyllgor a hi oedd ei Gadeirydd presennol. 

 

Er mwyn rhoi amser i Gynghorwyr setlo ac amser i ystyried yr amrywiaeth o sgiliau ar y Pwyllgor, cafodd Sally Ellis ei hail benodi am 12 mis.  Roedd yr Aelodau wedi cael bron i 12 mis o brofiad ar y Pwyllgor gyda Sally Ellis fel Cadeirydd. Pe bai’n cael ei hail ethol, awgrymwyd y dylai hyn fod am gyfnod arall o dair blynedd fel y gallai’r Cyngor recriwtio rhywun yn ei lle yn 2026 cyn yr etholiadau nesaf.

 

            Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Attridge a’u heilio gan y Cynghorydd Parkhurst.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ail benodi Sally Ellis fel Aelod Lleyg y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am dair blynedd arall hyd at 31 Mai 2026.