Mater - cyfarfodydd
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Cyfarfod: 12/07/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 24)
24 Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol PDF 119 KB
Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar y Polisi ac amlinellu unrhyw newidiadau arfaethedig i’r Polisi.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Anti-social Behaviour Policy, eitem 24 PDF 262 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Tai, Lles a Chymunedau) yr adroddiad i roi trosolwg o'r newidiadau a wnaed i'r Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.
Roedd y Cyngor wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol oherwydd yr effaith a gafodd ar denantiaid. Roedd y Polisi yn adlewyrchu arfer gorau ac yn diogelu hawliau deiliaid contract yn ogystal â lleihau'r risg i'r Cyngor am beidio â chydymffurfio â deddfwriaeth briodol. Amlinellodd yr Uwch Reolwr (Tai, Lles a Chymunedau) mai un o'r rhannau allweddol oedd y broses adrodd gywir trwy ffonio 101 i sicrhau bod yr holl dystiolaeth yn cael ei chofnodi’n gywir.
Gwnaeth yr Aelod Cabinet Tai ac Adfywio sylwadau ar yr heriau o geisio cefnogi'r rhai yr effeithir arnynt a'r caledi a wynebir ganddynt. Anogodd drigolion i adrodd am achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol er mwyn sicrhau y gellid cymryd camau gorfodi.
Cafodd yr argymhellion, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd David Evans a’u heilio gan y Cynghorydd Tina Claydon.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.