Mater - cyfarfodydd
Rhyddid y Fwrdeistref Sirol - Yr Arglwydd Barry Jones
Cyfarfod: 17/03/2023 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 96)
96 Rhyddid y Sir - Yr Arglwydd Barry Jones PDF 91 KB
Pwrpas: Ystyried rhoi Rhyddid y Sir y Sir y Fflint i'r Arglwydd Barry Jones i gydnabod ei gyrfa Seneddol nodedig.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ac egluro y byddai’r Arglwydd Barry Jones wedi dathlu 50 mlynedd o gynrychioli pobl Sir y Fflint fel seneddwr yn 2020. Yr oedd y Cyngor wedi gwneud trefniadau o’r blaen i ailenwi Siambr y Cyngor yn Neuadd y Sir i ‘Siambr Cyngor yr Arglwydd Barry Jones’ er mwyn cydnabod ei gamp. Yn anffodus, oherwydd COVID a’r cyfyngiadau a oedd mewn grym ar y pryd, ni chynhaliwyd y digwyddiad.
Awgrymwyd ers hynny y dylid cyflwyno Rhyddfraint Sir y Fflint i’r Arglwydd Barry Jones, yn ogystal ag ailenwi Siambr y Cyngor ar ei ôl – byddai hynny’n deyrnged addas iddo am ei wasanaeth a’i ymroddiad i gymunedau lleol Sir y Fflint.
Yr enwebiad oedd cyflwyno Rhyddfraint Sir y Fflint i’r Arglwydd Barry Jones i gydnabod ei yrfa wleidyddol hir a disglair, a chytunodd holl Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol y Cyngor ar yr enwebiad. Bu’r Arglwydd Jones yn eiriolwr dros Sir y Fflint drwy gydol ei yrfa, a pharhaodd i weithio’n ddiflino dros bobl, busnesau a grwpiau cymunedol ledled y sir. Dyma’r anrhydedd mwyaf y gallai Cyngor Sir ei roi.
Rhoddwyd Rhyddfraint y Sir dan Adran 249 (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Nododd y ddeddfwriaeth y gallai Cyngor Sir roi Rhyddfraint y Sir i “bobl o fri” ac “unigolion sydd, ym marn yr Awdurdod, wedi gwneud cymwynasau amlwg â’r lle hwnnw neu’r ardal honno”.
Mae’n rhaid i benderfyniad i dderbyn Rhyddfreinwyr Anrhydeddus gael ei basio yng nghyfarfod y Cyngor a alwyd yn arbennig, lle rhoddwyd hysbysiad yngl?n ag amcan y cyfarfod a’i basio gan ddim llai na dau draean o Aelodau’r Cyngor sy’n pleidleisio arno.
Yr oedd teitl Rhyddfreinwyr Anrhydeddus yn Sir y Fflint yn anrhydedd yn unig, ac nid oedd yn rhoi unrhyw hawliau na breiniau arbennig.
Croesawyd yr Arglwydd a’r Fonesig Jones a’u gwesteion arbennig i’r cyfarfod gan y Cadeirydd. Arweiniodd y teyrngedau i’r Arglwydd Barry Jones, ac fe’i dilynwyd gan y Prif Weithredwr, a chyfeiriwyd at ei bresenoldeb mewn digwyddiadau dinesig lle bu’n cefnogi Cadeirydd y Cyngor. Yr oedd yn ?r lleol a gâi ei adnabod am ei frwdfrydedd dros yr ardal a’r bobl a oedd yn byw a gweithio yn yr ardal lle bu’n chwarae rhan allweddol wrth ddiogelu a hybu busnesau.
Canmolwyd y gefnogaeth a gafodd yr Arglwydd Barry drwy gydol ei yrfa gan y Fonesig Janet, tra’r oedd hi ei hun hefyd yn dal swyddi pwysig yn y gymuned. Yr oedd buddsoddiad yn yr ardal a thwf busnes yn brawf o’r gwaith cynnar a wnaeth yr Arglwydd Barry Jones wrth gefnogi datblygiad Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, Airbus, y Diwydiannau Awyrofod cysylltiedig, Gwibffordd yr A55 a Phont Sir y Fflint.
Arweiniodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor, deyrngedau o’r Siambr, ac fe’i dilynwyd gan nifer o Aelodau. Dywedwyd bod yr Arglwydd Barry Jones yn enghraifft ragorol o wasanaeth cyhoeddus ac ymroddiad, ac yn unigolyn a oedd wedi gweithio’n ddiflino. Brwydrodd yn erbyn cau Courtaulds a Gwaith Dur Shotton, ac ers hynny bu’n gweithio’n ddiflino i gefnogi datblygiad diwydiannol yn Sir y ... view the full Cofnodion text for item 96