Mater - cyfarfodydd
Estyniad Contract Plas Bellin (Atebion Lleol)
Cyfarfod: 14/03/2023 - Cabinet (eitem 148)
Plas Bellin (Local Solutions) Ymestyn Contract
Pwrpas: Aelodau i nodi’r newid yn y model darparu gwasanaeth sydd wedi ei gysylltu â gwasanaethau cymorth tai ar gyfer teuluoedd diamddiffyn sy’n cael ei ddarparu ar hyn o bryd o Brosiect Tai â Chymorth Plas Bellin ar gyfer teuluoedd diamddiffyn.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2
- Gweddarllediad ar gyfer Plas Bellin (Local Solutions) Ymestyn Contract
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad oedd yn darparu trosolwg o brosiect Cynllun Bellin, sef prosiect tai â chymorth i deuluoedd, a’r amgylchiadau oedd yn arwain at y Timau Cymorth Tai yn gofyn am estyniad pellach o flwyddyn i’w contract.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y newid yn y model darparu gwasanaeth yn gysylltiedig â gwasanaethau cymorth tai i deuluoedd diamddiffyn sy’n cael ei ddarparu o Brosiect Tai â Chymorth Cynllun Bellin ar hyn o bryd i deuluoedd diamddiffyn yn cael ei nodi; a
(b) Bod yr estyniad a’r ffordd ymlaen a gytunwyd i alluogi teuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan werthiant sydyn Cynllun Pelin yn cael eu cefnogi'n llawn wrth iddynt symud i lety arall yn y gymuned, yn cael ei gymeradwyo.