Mater - cyfarfodydd

Prosiect Dal Carbon HyNet; Y wybodaeth ddiweddaraf am y Biblinell Carbon Deuocsid a’r Broses Gydsynio

Cyfarfod: 14/03/2023 - Cabinet (eitem 142)

142 Prosiect Dal Carbon HyNet; Y wybodaeth ddiweddaraf am y Biblinell Carbon Deuocsid a’r Broses Gydsynio pdf icon PDF 133 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ar y prosiect traws-ffiniol i ddal a storio hydrogen a charbon o’r enw HyNet Gogledd Orllewin, y broses gydsynio ar ei gyfer ac i benderfynu a oes angen safbwynt corfforaethol ar y prosiect cyfan.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad ac eglurodd fod Liverpool Bay (Carbon Capture Storage) Limited (y Datblygwr) yn cynnig adeiladu a gosod piblinell carbon deuocsid newydd rhwng Ince, ger Stanlow, (Swydd Gaer) a’r Fflint, ac ailbwrpasu piblinell nwy naturiol presennol rhwng y Fflint a Thalacre (‘Piblinell Cei Connah i’r Parlwr Du’). Enw’r prosiect hwnnw oedd Piblinell Carbon Deuocsid y Gogledd-orllewin HyNet ac roedd yn cael ei ystyried yn Brosiect Isadeiledd Sylweddol Cenedlaethol. Roedd y broses gymeradwyo yn wahanol ar gyfer Prosiect Isadeiledd Sylweddol Cenedlaethol, a gwnaed cais o dan Ddeddf Cynllunio 2008 am ganiatâd sy’n cael ei alw’n Orchymyn Caniatâd Datblygu i adeiladu a gweithredu Piblinell Carbon Deuocsid Prosiect Isadeiledd Sylweddol Cenedlaethol arfaethedig.

 

Yn rhan annatod o brosiect NyNet y Gogledd-orllewin oedd ailddatblygu’r gwaith yn Nherfynell Nwy y Parlwr Du, y gwaith rhwng y Derfynell Nwy at y marc Distyll Cymedrig, ac adeiladu tair Gorsaf Falf wedi’u Blocio ar hyd ‘Piblinell Cei Connah i’r Parlwr Du’ sydd eisoes yn bodoli.  Mae’r datblygwr eisiau caniatâd ar gyfer y gwaith hwnnw o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

 

Roedd yr adroddiad yn ceisio awdurdod dirprwyedig i alluogi swyddogion i ymateb i faterion sy’n codi wrth archwilio’r Prosiect Isadeiledd Sylweddol Cenedlaethol, cynrychioli’r Cyngor yn y gwrandawiadau, ymateb i’r Datganiad Tir Cyffredin, ateb cwestiynau sy’n codi, a darparu Adroddiad ar Effaith Lleol.

 

Mae’r adroddiad yn darparu manylion am y prosiect, y ddau broses gymeradwyo a rôl yr Awdurdod Cynllunio Lleol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yna ddiwygiad i’r argymhelliad i dynnu’r geiriau  “Aelod Cynllunio, Iechyd Cyhoeddus a Gwarchod y Cyhoedd” fel ei fod mewn ymgynghoriad gyda’r Cabinet.   Cefnogwyd hyn.  Fe eglurodd mai pwrpas yr adroddiad oedd ceisio caniatâd i ymateb i’r adroddiad ar effaith lleol a fyddai’n galluogi gwybodaeth wrthrychol gael ei gyflwyno i’r Archwilwyr.

 

Byddai cyfres o sesiynau briffio’n cael eu trefnu, gan ddechrau gyda’r Cabinet.

 

Diolchodd y Cynghorydd Healey i’r swyddog sy’n arwain y gwaith am y sesiwn i’r Aelodau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod ymateb y Cyngor i’r Awdurdod Archwilio mewn cysylltiad â’r Adroddiad ar Effaith Lleol ar Biblinell Carbon Deuocsid Gogledd-orllewin HyNet yn cael ei ddirprwyo i swyddogion mewn ymgynghoriad gyda’r Cabinet; a

 

(b)       Bod ymatebion sy’n ymwneud â sylwadau ar Ddatganiad Tir Cyffredin, darparu Sylwadau Ysgrifenedig sy’n mynd i’r afael â chwestiynau ac unrhyw faterion sy’n codi yn rhan o sesiynau Archwilio dilynol ac yn ystod sesiynau gwrando, yn cael eu dirprwyo i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi).