Mater - cyfarfodydd
Cynllun y Cyngor 2023-28
Cyfarfod: 27/04/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 59)
59 Cynllun y Cyngor 2023-28 PDF 94 KB
Pwrpas: Rhannu cynnwys drafft Rhan 1 a Rhan 2 Cynllun y Cyngor 2023-28 er mwyn ceisio adolygiad/adborth cyn cael cymeradwyaeth y Cabinet.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Council Plan 2023-28 Part 1: An overview of the Well-being Objectives, Priorities, Sub priorities and their definitions, eitem 59 PDF 74 KB
- Appendix 2 - Council Plan 2023-28 Part 2: How achievements will be measured - Supporting Actions, Measures and Risks, eitem 59 PDF 98 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Cynllun y Cyngor 2023-28
Cofnodion:
Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) wrth yr aelodau fod Cynllun y Cyngor wedi ei ystyried eisoes gan Bwyllgorau eraill y Cyngor, yn ogystal â’r Cabinet, ac yr oedd eu barn yn amodol ar unrhyw sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor hwn. Cytunwyd ar strwythur lefel uchel Cynllun y Cyngor 2023-28 ym mis Hydref 2022, ac mae’n cynnwys saith blaenoriaeth, amcanion lles a nifer o is-flaenoriaethau.
Rhoddodd gipolwg ar y blaenoriaethau sy’n berthnasol i’r Pwyllgor hwn, sef:
· Byw’n Annibynnol
· Diogelu
· Darpariaeth Uniongyrchol i gefnogi pobl yn agosach i’w cartrefi
· Strategaeth Dementia Lleol
· Amgylchedd Lleol Glân, Diogel gyda Chysylltiadau Da
Wrth ymateb i’r Cadeirydd, dywedodd y Prif Swyddog nad oedd yn gwybod am unrhyw gynlluniau ar gyfer defnyddio safle Tri Ffordd, ac yr oedd yn ansicr a oedd penderfyniad wedi ei wneud, ond credai ei fod ym mherchnogaeth Cyngor Sir y Fflint, a chadarnhaodd y byddai Mocking Bird yn parhau i fod yn rhan o’r cynlluniau allweddol o ran gwasanaethau maethu.
Gofynnodd y Cynghorydd Mackie am eglurhad pam oedd ffigyrau targed yn is na’r ffigyrau sylfaenol yn yr adroddiad, a rhoddodd nifer o enghreifftiau. Cytunodd y Prif Swyddog y byddai’n adolygu’r ffigyrau lle’r oedd targedau’n is na’r data sylfaenol gyda’i dîm, ac y byddai’n dosbarthu’r ffigyrau i Aelodau’r Pwyllgor erbyn diwedd yr wythnos. Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ellis, cytunodd y Prif Swyddog y dylai targedau fod yn heriol, a dywedodd eu bod wedi eu gosod ganddo ef a’i dîm, gyda barn a geisiwyd gan y Pwyllgor a chydweithwyr corfforaethol.
Cafodd yr argymhelliad yr adroddiad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd Ellis a’r Cynghorydd Carberry.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi dogfennau Rhan 1 a 2 Cynllun y Cyngor 2023-28 sy’n amlinellu’r camau gweithredu, y mesurau a’r risgiau sy’n sail i flaenoriaethau, is-flaenoriaethau ac amcanion lles Cynllun y Cyngor 2023-28, yn amodol ar adolygu’r targedau a dosbarthu’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor.
Cyfarfod: 20/04/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 59)
59 Cynllun y Cyngor 2023-28 PDF 94 KB
Pwrpas: Rhannu cynnwys drafft Rhan 1 a Rhan 2 Cynllun y Cyngor 2023-28 er mwyn ceisio adolygiad/adborth cyn cael cymeradwyaeth y Cabinet.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Council Plan 2023-28 Part 1: An overview of the Well-being Objectives, Priorities, Sub priorities and their definitions, eitem 59 PDF 74 KB
- Appendix 2 - Council Plan 2023-28 Part 2: How achievements will be measured - Supporting Actions, Measures and Risks, eitem 59 PDF 98 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Cynllun y Cyngor 2023-28