Mater - cyfarfodydd
Consideration of a matter referred to the Committee pursuant to the Call In arrangements
Cyfarfod: 01/02/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 49)
49 Ystyried mater a atgyfeiriwyd at a Pwyllgor yn unol a'r Trefniadau galw i mewn PDF 100 KB
Pwrpas: Mae penderfyniad y cyfarfod Cabinet ar 17 Ionawr 2023 yn ymwneud â Adolygiad Strategaeth Gwastraff wedi cael ei alw i mewn. Atodir copi o’r weithdrefn ar gyfer delio ag eitem sydd wedi’I galw i mewn.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Dywedodd y Cadeirydd fod y Cabinet wedi ystyried adroddiad ar yr ‘Adolygiad Strategaeth Gwastraff’ mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2023. Galwyd y penderfyniad i mewn (Cofnod Penderfyniad 4056) gan y Cynghorwyr Bernie Attridge, Helen Brown, David Richardson, Carol Ellis, Richard Jones a Glyn Banks. Roedd copïau o adroddiad y Cabinet, y Cofnod o Benderfyniad a’r Gymeradwyaeth o Alw i Mewn a oedd yn nodi tri rheswm dros y galw i mewn wedi’u cynnwys gyda phapurau’r rhaglen.
Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd drosolwg o’r drefn ar gyfer galw Penderfyniad Cabinet i mewn fel y manylwyd yn y ddogfen ategol a oedd wedi’i chynnwys yn y rhaglen.
Gwahoddodd y Cadeirydd y llofnodwyr i gyflwyno’r rhesymau dros y galw i mewn i’r Pwyllgor.