Mater - cyfarfodydd

Dwr Cymru Welsh Water draft Water Resources Management Plan 2024 - Public Consultation Launch

Cyfarfod: 07/02/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 58)

58 Cynllun Rheoli Adnoddau Dwr drafft Dwr Cymru 2024 – Lansio’r Cyhoeddus Ymgynghoriad pdf icon PDF 221 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Aelodau am yr ymgynghoriad sy’n cael ei gynnal gyda budd-ddeiliaid, amlygu’r materion a godir gan y cynllun ac ystyried sut dylai’r Cyngor ymateb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad hwn, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod hwn yn ymgynghoriad byw a bod rôl D?r Cymru yn hanfodol, yn arbennig mewn perthynas â’r CDLl a rheoli ffosffadau.

 

            Siaradodd Rheolwr y Gwasanaeth (Strategaeth) yn gyntaf am yr eitem flaenorol, sef bioamrywiaeth, gan ddweud bod y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn cynnwys nifer o bolisïau a fyddai’n helpu gyda’r problemau hynny i ddiogelu coed, coetiroedd neu wrychoedd.   Roedd yna hefyd fesurau amddiffyn mannau gwyrdd a mannau trefol ynghyd â pholisïau newydd ar enillion net bioamrywiaeth.

 

            Wrth symud ymlaen at yr adroddiad, dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth (Strategaeth) fod yr ymgynghoriad hwn gan D?r Cymru wedi cael ei anfon at fudd-ddeiliaid allweddol ac yn ymwneud â diweddariad o’u Cynllun Rheoli Adnoddau D?r, a oedd yn ddogfen strategol yr oedd rhaid ei diweddaru bob 5 mlynedd.  Y rheswm am hyn oedd sicrhau diogelwch hirdymor y cyflenwad d?r ar gyfer defnydd busnesau a chartrefi.  Roedd D?r Cymru wedi tynnu sylw at y sychder a welwyd y llynedd ac wedi cyflwyno cadernid rhag sychder o fewn y cynllun hwn.   Cyfeiriwyd yr Aelodau at y map a oedd yn dangos y 23 parth cynllunio yn yr adroddiad, ac ym mhwynt 1.03, yn cynnwys yr amcanion a’r ysgogwyr allweddol o ran sut y byddai’r mesurau hyn yn cefnogi’r ardaloedd hynny â phrinder.  Rhoddwyd trosolwg o’r cyflenwad d?r gan D?r Cymru ym mhwynt 1.04 yr adroddiad i sicrhau bod D?r Cymru, pan fo digwyddiadau difrifol yn codi, yn gallu darparu cymaint o gyflenwad ag y bo modd.  Eglurodd Rheolwr y Gwasanaeth (Strategaeth) bod Sir y Fflint ym mharth Alwen Dyfrdwy, ac yna rhoddodd wybodaeth am sut y gwneir y cyfrifiadau.  Roedd pedair ardal wedi’u nodi fel ardaloedd a fydd yn wynebu prinder, gyda thair yn Ne Cymru ac un yn y Gogledd.   Amlinellodd sut y gallai rheoli'r galw effeithio ar y sir a’r mesurau a sefydlwyd i leihau defnydd dyddiol.  Roedd mwy o ddefnydd o fesuryddion d?r hefyd yn cael eu hyrwyddo. 

 

            Cyfeiriodd at bwynt 1.10 yr adroddiad a’r pwyntiau bwled a restrir, gan egluro pam fod angen eglurhad pellach a chadarnhad o’r canlynol:-  

 

  • Bod y twf yn CDLl Sir y Fflint wedi cael ei ystyried yn y cynllunio hwn. 
  • Bod y Cyngor yn cefnogi’n llwyr y mesurau cadernid ehangach i helpu gwella gollyngiadau.
  • Ei fod o blaid codi ymwybyddiaeth ymysg cwsmeriaid o sut i ddefnyddio d?r yn effeithlon. 

·         Y gallai lleihau’r d?r gwastraff sy’n mynd i weithiau trin o bob eiddo domestig a masnachol helpu rhyddhau llai o ffosffadau i afonydd.

·         Bod y Cyngor yn annog gwell cysylltiad rhwng cynllunio adnoddau gwastraff a chynllunio d?r gwastraff, er mwyn gallu dod â gwelliannau ymlaen.

·         Ei fod yn ceisio ymrwymiad am gyswllt a chydweithredu mwy rheolaidd gyda D?r Cymru fel partner allweddol, naill ai ar lefel strategol neu leol.

 

            Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Mike Peers, ymatebodd Rheolwr y Gwasanaeth (Strategaeth) yn gyntaf i’r pwynt am leihau gollyngiadau, gan  ...  view the full Cofnodion text for item 58