Mater - cyfarfodydd

Climate Change Programme Progress Report

Cyfarfod: 07/02/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 54)

54 Strategaeth Newid Hinsawdd pdf icon PDF 165 KB

Pwrpas:        Darparu diweddariad ar gynnydd o fewn y rhaglen newid yn yr hinsawdd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y byddai’r adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yr wythnos nesaf ac y byddai unrhyw sylwadau gan y pwyllgor hwn yn cael eu croesawu.  Roedd yr adroddiad hwn wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ac i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd.

 

            Dechreuodd Rheolwr y Rhaglen (Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon) drwy ddweud bod y Strategaeth Newid Hinsawdd wedi cael ei mabwysiadu ym mis Chwefror y llynedd a bod data Ôl Troed Carbon 2021/22 y Cyngor wedi cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.  Yna, tynnodd sylw at feysydd penodol o fewn yr adroddiad a oedd yn cynnwys targedau allyriadau ac ôl troed carbon y Cyngor.  Cafwyd gwybodaeth am y themâu o fewn y cynllun, yn ogystal â’r wybodaeth ddiweddaraf am dargedau a gyflawnwyd o ran adeiladau, symudedd, cludiant a chaffael.  

 

            Gan symud ymlaen at Flaenoriaethau 2023/24, amlinellodd Rheolwr y  Rhaglen (Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon) y gwelliannau yn y fethodoleg casglu data, yn enwedig o amgylch caffael, gan adrodd ar y gwaith a oedd yn mynd rhagddo gyda’r swyddogion comisiynu a’r cyflenwyr.  Cafwyd trosolwg o’r wybodaeth am y blaenoriaethau ar gyfer milltiroedd busnes, cofnodi cerbydau gweithwyr, teithio i’r gwaith a gweithio gartref a’r broses dendro wrth weithio gyda chyflenwyr.  Yna, cyflwynodd wybodaeth am hyfforddiant llythrennedd carbon, gosod llinell sylfaen ar gyfer adeiladu a stoc tir a gwelliannau i drydaneiddio cerbydau fflyd, ynghyd ag ysgol di-garbon net a’r nod o gael cartref gofal di-garbon net a chynllun ynni ardal leol.

 

            Cadarnhaodd Rheolwr y Rhaglen (Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon), bod Cynorthwy-ydd Prosiect Newid Hinsawdd wedi cael ei benodi, yn ychwanegol ati hi, gyda Swyddog Prosiect Newid Hinsawdd yn dechrau ymhen dau fis.  Cadarnhawyd hefyd bod pwysau refeniw dan y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig i gael Cydlynydd Prosiectau Ynni i arwain ar ynni adnewyddadwy, arbed ynni a chymorth i’r isadeiledd Cerbydau Trydan.  Adroddodd hefyd ar y cydweithio â Chyngor Sir Ddinbych ar gael Swyddog Caffael Carbon a chael gafael ar gyllid ychwanegol gan LlC a’r sector preifat.

 

            Yn dilyn cwestiynau gan y Cynghorydd Mike Peers, cyfeiriodd Rheolwr y Rhaglen (Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon) yn gyntaf at baneli solar ar ysgolion. Dywedodd fod y dewis delfrydol wedi’i ddarparu ar gyfer to pob adeilad, gan roi ystyriaeth i ganfod beth fyddai’r ad-daliad ar y buddsoddiad a’r ynni adnewyddadwy a gyflawnir i wrthbwyso’r gost.  Cytunodd i siarad â thîm arall am y pwynt refeniw a gynhyrchir ac adrodd yn ôl.

 

            Gan gyfeirio at y pwynt am ostyngiadau mewn costau gwresogi o adeiladau neu oleuadau stryd, cadarnhaodd y cyflawnwyd y rhain drwy waith uwchraddio dan y rhaglen Buddsoddi i Arbed, gyda’r ffigurau hyn yn cael eu cymharu â gwybodaeth sylfaenol 2018.

 

            Mewn perthynas â’r cyfleoedd i ddatgarboneiddio adeiladau, cadarnhaodd Rheolwr y Rhaglen (Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon) bod hyn yn flaenoriaeth er mwyn dod i ddeall yn well yr hyn y gellid ei gyflawni o fewn stoc bresennol y cyngor.

 

            Mewn ymateb i inswleiddio atigau ac ystafelloedd haul, cadarnhaodd Rheolwr y Rhaglen (Newid Hinsawdd a  ...  view the full Cofnodion text for item 54