Mater - cyfarfodydd

Memorials/Legacy in the Countryside Policy

Cyfarfod: 07/02/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 57)

57 Polisi Cofebion Mewn Mannau Agored ac ar Briffyrdd pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        Cytuno ar bolisi newydd i fynd i’r afael â cheisiadau am gofebion ac eitemau coffa o fewn mannau gwyrdd a chefn gwlad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad, eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) nad oedd yna bolisi ar hyn o bryd ar gyfer cofebion a osodir ar y rhwydwaith priffyrdd neu ar dir y cyngor.  Teimlai fod y polisi hwn yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng y gost gychwynnol, y gwaith cynnal a chadw hirdymor ac ystyriaeth o’r lleoliad, gan fod hwn yn fater sensitif.

 

            Adroddodd Rheolwr y Gwasanaeth (Mynediad i Gefn Gwlad a’r Amgylchedd Naturiol) bod ceisiadau wedi dod i law gan aelodau’r cyhoedd am gael gosod mainc goffa neu blannu coeden er cof am anwyliaid o fewn safleoedd cefn gwlad a mannau agored.  Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r ceisiadau hyn wedi cynyddu’n sylweddol ac wedi arwain at bryderon na ddylid troi mannau agored yn erddi coffa.  Roedd hwn yn fater sensitif ac roedd rhaid i’r cyngor fod yn ystyriol o deuluoedd a’u hamgylchiadau.

 

            Diben y polisi hwn oedd cydweithio â theuluoedd mewn ffordd sensitif ac ystyried pob dewis o ran cofebion yn ychwanegol at feinciau, fel plannu coeden neu ddarn o wrych, gosod camfeydd neu gyfrannu giatiau, a oedd hefyd yn cael eu hystyried mewn parciau gwledig.   Gan gyfeirio at gofebion ar briffyrdd, dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth (Mynediad i Gefn Gwlad a’r Amgylchedd Naturiol) fod y rhain ychydig yn wahanol, gan fod angen ystyried diogelwch o ran tynnu sylw gyrwyr.  Byddai’r polisi hwn yn gadael i swyddogion siarad â’r teuluoedd i sicrhau y gellid cyrraedd canlyniad cadarnhaol.   Roedd yna broblemau hefyd o ran cyllid yr oedd rhaid eu hystyried, gan gynnwys y pryniant cychwynnol, y gwaith cynnal a chadw ac adnewyddu’r eitem, y dylai’r ymgeisydd fod yn gyfrifol amdanyn nhw.   Yna, adroddodd am y sensitifrwydd angenrheidiol pan fyddai teuluoedd yn cyfarfod i ryddhau balwnau, a oedd yn broblem gan eu bod yn rhyddhau plastig a sbwriel yng nghefn gwlad.  Byddai’n rhaid cynnal trafodaethau gyda’r teuluoedd i ddod o hyd i ffyrdd amgen iddyn nhw nodi marwolaeth aelodau'r teulu.

           

            Mewn ymateb i gwestiynau am blannu coed coffa a rhyddhau balwnau gan y Cynghorydd Dan Rose, cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaeth (Mynediad i Gefn Gwlad a’r Amgylchedd Naturiol) y câi teuluoedd blannu coed.  Roedd yna beryglon ynghlwm â hyn y byddai'n rhaid eu trafod gyda’r teulu, fel coed yn marw mewn cyfnodau o sychder neu’n dioddef fandaliaeth a’r gwaith o’u cynnal a’u cadw.  Nid oedd o blaid gosod placiau, ond gellid defnyddio llyfr coffa yn y canolfannau ymwelwyr neu ar lein i gofnodi hyn.  Gan gyfeirio at ryddhau balwnau, dywedodd ei bod yn anodd i’w swyddogion fynd at deulu mewn galar i ofyn iddyn nhw beidio â rhyddhau balwnau.  Hysbysebu a darparu gwybodaeth am risgiau gwneud hyn oedd y ffordd ymlaen.


            Gofynnodd y Cynghorydd Dan Rose a fyddai placiau bioddiraddadwy yn cael eu hystyried fel mesur tymor byr, a chadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaeth
(Mynediad i Gefn Gwlad a’r Amgylchedd Naturiol) y byddai’n fodlon ystyried hyn.

 

            Awgrymodd y Cynghorydd Roy Wakelam y dylid annog teuluoedd i adael blodau heb eu lapio, wedi’u clymu gyda llinyn.  Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth (Mynediad i  ...  view the full Cofnodion text for item 57