Mater - cyfarfodydd

Action Tracking

Cyfarfod: 18/05/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 5)

5 Olrhain Gweithred pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ddiweddariad ar gamau gweithredu a gododd o gyfarfodydd blaenorol a dywedodd fod y gweithdy ar Swyddfa’r Crwner wedi’i drefnu ar gyfer 13 Medi 2023.  Dywedodd hefyd fod y sylwadau a godwyd yn y cyfarfod blaenorol ar Gynllun y Cyngor wedi'u rhannu â'r Prif Swyddogion er mwyn gallu dosbarthu ymateb i'r Pwyllgor cyn i Gynllun y Cyngor gael ei gyflwyno i'r Cyngor ym mis Mehefin.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Kevin Rush a Linda Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd sydd wedi’i wneud.