Mater - cyfarfodydd

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyfarfod: 18/05/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 6)

6 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 106 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r rhaglen gwaith i’r dyfodol bresennol i’w hystyried, cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i holi ynghylch sylwadau’r Cynghorydd Bernie Attridge o ran cael diweddariad ar Gyd-bwyllgorau Corfforaethol.

 

Ar sail hynny, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Bill Crease.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Rhoi awdurdod i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.