Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu
Cyfarfod: 13/07/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 12)
12 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu PDF 82 KB
Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 – Draft Forward Work Programme, eitem 12 PDF 77 KB
- Appendix 2 – Action Tracking for the Education Youth & Culture OSC, eitem 12 PDF 71 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu
Cofnodion:
Wrth gyflwyno'r adroddiad, amlinellodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr eitemau a drefnwyd ar gyfer y cyfarfodydd i ddod a oedd ynghlwm yn Atodiad 1 i'r adroddiad. Nid oedd unrhyw eitemau ychwanegol i'w cynnwys ar wahân i'r eitem a nodwyd gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst a chytunodd i ymgynghori â'r Hwylusydd i sicrhau ei fod yn cael ei gynnwys. Yna darparwyd gwybodaeth am y Gweithdai Aelodau ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) a Chyllideb 2024-24 a Rhianta Corfforaethol.
Yna rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ddiweddariad ar yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu yn Atodiad 2. Byddai angen i'r cynigion ar gyfer Hyfforddiant Rhianta Corfforaethol gorfodol aros nes bod canlyniadau ymgynghoriad Adolygiad Penn yn hysbys ond cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd ei fod ar Raglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Gladys Healey at yr Hyfforddiant Rhianta Corfforaethol ar-lein a theimlai fod sesiynau wyneb yn wyneb i Aelodau yn well. Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd fod sesiwn ar-lein wedi'i threfnu yn dilyn y cais i'w chynnal cyn y toriad ac ar fyr rybudd. Byddai'r sesiwn yn rhoi golwg gyffredinol ar Rianta Corfforaethol ac yn cynnwys llawlyfr CLlLC ac atodiad yn amlinellu beth oedd y rôl yn ei olygu. Roedd y Cyngor ar hyn o bryd yn adolygu ei Strategaeth Rhianta Corfforaethol a chynigiwyd cyflwyno dwy sesiwn arall, un wyneb yn wyneb ac un ar y we, yn yr Hydref unwaith y byddai'r Strategaeth wedi'i diwygio a'i hadnewyddu. Byddai’r hyfforddiant yn cynnwys themâu penodol ar gyfer Sir y Fflint, a chynigiwyd hefyd gwahodd rhai o’r Bobl Ifanc i siarad ag Aelodau ac ateb cwestiynau.
Diolchodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst i'r swyddogion am ddarparu'r data ar gyfer plant a oedd yn derbyn gofal ac wedi'u gwahardd o'r ysgol. Roedd y ffigwr o 20% yn llawer uwch na disgyblion eraill a chyfeiriodd at ddata cenedlaethol a oedd yn dangos bod plant sy'n derbyn gofal yn fwy tebygol o gael eu gwahardd am ddangos yr un math o ymddygiad cythryblus â'u cyfoedion. Fel Rhieni Corfforaethol roedd yn ddyletswydd ar y Cyngor i sicrhau nad oedd plant sy'n derbyn gofal yn cael eu trin yn wahanol.
Cynigiodd y Cynghorydd Carolyn Preece yr argymhellion, sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad, a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu nad oedd wedi’u cwblhau.