Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu
Cyfarfod: 08/03/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 32)
32 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu PDF 82 KB
Pwpras: Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 – Draft Forward Work Programme, eitem 32 PDF 69 KB
- Appendix 2 – Action Tracking for the Community & Housing OSC, eitem 32 PDF 69 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol i’w hystyried.
Soniodd yr Hwylusydd am y newidiadau arfaethedig canlynol i’r eitemau oedd wedi’u rhestru yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol:-
- Diweddariad Archwilio Llety Dros Dro – awgrymu ei symud i fis Medi i ganiatáu adroddiad mwy cynhwysfawr;
- Adroddiadau Rheoli Ystadau ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol – awgrymu eu symud i fis Gorffennaf. Roedd yr amserlen wreiddiol i adolygu’r polisïau hyn i gyd-fynd â chyflwyno Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) a gan fod cyfnod o oedi am chwe mis cyn cyflwyno’r ddeddf, byddai angen i’r adolygiad polisi a’r diweddariad ddilyn yr un patrwm amser.
Fe wnaeth yr Hwylusydd hefyd nodi statws y camau gweithredu oedd yn deillio o’r cyfarfod diwethaf, oedd i’w gweld yn Atodiad 2 i’r adroddiad.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Linda Thew at yr eitem ar ffoaduriaid a oedd wedi’i rhestru ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol dan ‘eitemau i’w trefnu’ a mynegodd bryder yngl?n â chynigion i drosi Gwesty T? Gwledig Northop Hall yn gyfleuster i geiswyr lloches a ffoaduriaid. Cytunwyd i gyfleu pryderon y Cynghorydd Thew i’r Prif Weithredwr i sicrhau bod Aelodau lleol ac Aelodau wardiau cyfagos yn cael mynegi eu barn ar ôl y cyfarfod.
Cafodd yr argymhellion, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson a’u heilio gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.