Mater - cyfarfodydd

Housing Support Grant

Cyfarfod: 08/02/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 25)

25 Grant Cymorth Tai pdf icon PDF 158 KB

Pwrpas:        I roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y Grant Cymorth Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai ac Atal adroddiad oedd yn rhoi trosolwg o’r drefn Grant Cymorth Tai a manylion y Cynllun Cyflawni Cymorth Tai, oedd yn ofyniad derbyn y Grant Cymorth Tai refeniw gan Lywodraeth Cymru.

 

Roedd y Grant Cymorth Tai yn rhaglen a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, oedd yn darparu gwasanaethau cymorth yn ymwneud â thai i bobl dros 16 oed. Mae’n rhaglen ymyrraeth gynnar sy’n cefnogi gweithgarwch i atal pobl rhag mynd yn ddigartref, eu helpu i gael cartref sefydlog neu helpu pobl a allai fod yn ddigartref i ganfod a chadw llety.   

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai ac Atal gyflwyniad manwl ar yr adroddiad gan ddweud, wedi rhagweld i ddechrau y byddai gostyngiad yn y cyllid gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddwyd y byddai £40m pellach yn cael ei roi yn y dyfarniad cenedlaethol ar gyfer y Grant Cymorth Tai. Y disgwyl oedd y byddai’r cyllid ychwanegol yn darparu llwyfan i drawsnewid gwasanaethau ac adeiladu ar yr arfer positif a ddatblygwyd yn ystod yr ymateb i Covid. Roedd y cyllid yn caniatáu i’r Cyngor ymateb i’r pwysau cynyddol ar wasanaethau tai a digartrefedd ar ôl y pandemig a’r argyfwng costau byw cyfredol a dylai gyd-fynd â’r newid mewn darparu gwasanaethau tuag at Ailgartrefu Cyflym.

 

Cafodd diweddariad manwl ar y meysydd canlynol, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, ei ddarparu i’r Pwyllgor:

 

  • Gwasanaethau Cyfredol Grant Cymorth Tai
  • Mynediad at Wasanaethau Cymorth Tai
  • Datblygu’r Cynllun Cyflawni Grant Cymorth Tai
  • Blaenoriaethau Cyflawni Lleol y Grant Cymorth Tai
  • Gwariant yn erbyn y Grant Cymorth Tai
  • Comisiynu ac Adolygu Gwasanaethau
  • Trefniadau Gweithio Rhanbarthol
  • Ymgyrch Recriwtio drwy Gymru ar gyfer y Sector Cyfan

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge nifer o gwestiynau fel y nodir isod:-

 

  • A ellid darparu gwybodaeth am y rhaniad rhwng gwasanaethau Cyngor Sir y Fflint a gwasanaethau a gomisiynir o ran y gwariant ar gyfer y Grant Cymorth Tai a pha lefel o reoli ac atebolrwydd oedd yn ei le pan oedd arian yn cael ei wario’n allanol; 
  • Gofynnwyd am sicrwydd nad oedd y Grant Cymorth Tai yn cael ei ddefnyddio fel ffordd o gadw rhestrau aros i lawr am eiddo’r Cyngor;
  • Beth oedd y llwyth achosion cyfartalog fesul pob aelod o staff;
  • Pryderon bod y Swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu yng Nghei Connah ar agor am lai o ddyddiau ac effaith hyn ar allu preswylwyr i gyfarfod wyneb yn wyneb â swyddogion tai i drafod problemau;
  • Wrth ddatblygu Cynllun Cyflawni’r Grant Cymorth Tai, pa weithgareddau ymgynghori a gynhaliwyd;
  • Wrth agor y Sector Rhentu Preifat, faint o eiddo preifat oedd ar gael ddim ond i Gyngor Sir y Fflint;
  • O ran y tanwariant yn y Grant Cymorth Tai, a gafodd unrhyw brosiectau eraill eu hystyried i sicrhau bod yr holl gyllid yn cael ei ddefnyddio;
  • A ellid rhoi gwybodaeth am ddyfodol safle Plas Bellin, gan fod sïon pryderus ar y cyfryngau cymdeithasol am ei ddyfodol;
  • Pam bod eiddo gwag yn cael eu dal yn ôl o ystyried bod nifer fawr ohonynt a nifer y bobl sydd ar  ...  view the full Cofnodion text for item 25