Mater - cyfarfodydd

Common Housing Register (Single Access Route to Housing - SARTH)

Cyfarfod: 08/02/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 26)

26 Cofrestr Tai Cyffredin (Un Llwybr Mynediad at Dai - ULlMaD) pdf icon PDF 336 KB

Pwrpas:        I roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y Gofrestr Tai Cyffredin a chanlyniad yr arolwg boddhad cwsmer.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai ac Asedau adroddiad ar yr Un Llwybr Mynediad at Dai (SARTH), sef partneriaeth rhwng yr holl brif ddarparwyr tai cymdeithasol yng Ngogledd Cymru, yn gwasanaethu ardaloedd awdurdodau lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.

 

Roedd y Cyngor yn rheoli’r gofrestr tai ar ran Partneriaid Tai Cymdeithasol Sir y Fflint (Cyngor Sir y Fflint, Tai Clwyd Alyn, Wales and West Housing, Gr?p Cynefin a Chymdeithas Tai Adra) ac roedd un Gofrestr Tai Cyffredin yn rhoi rhestr o’r holl ymgeiswyr cymwys am dai cymdeithasol.  

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai ac Atal fod nifer yr ymgeiswyr a dderbyniwyd ar y Gofrestr Tai Cyffredin wedi tyfu’n sylweddol dros y tair blynedd diwethaf. Roedd hyn yn rhoi pwysau cynyddol ar y baich gweinyddol a’r gwaith o reoli’r gofrestr ac roedd hefyd yn arwain at amseroedd aros hirach am y nifer cyfyngedig o dai cymdeithasol oedd ar gael bob blwyddyn. Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r cynnydd mewn anghenion am dai a’r gwahaniaeth rhwng hynny a faint o dai cymdeithasol oedd ar gael, nad oedd yn cynyddu ar yr un gyfradd â lefelau’r anghenion am dai oedd yn amlwg yn y gymuned. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin bryder am y diffyg tai cymdeithasol oedd ar gael a soniodd am adroddiad diweddar a gyflwynwyd i’r Pwyllgor am nifer gyfredol y tai gwag. Gofynnodd a oedd nifer y tai gwag yn Sir y Fflint yn cymharu â siroedd cyfagos.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai ac Asedau fod gan siroedd cyfagos lefelau tebyg o dai gwag ac wrth ymateb i gwestiynau pellach, dywedodd fod 259 o dai gwag yn Sir y Fflint ar hyn o bryd.

 

Soniodd y Cynghorydd Bernie Attridge am bryderon blaenorol am gwtogi oriau agor canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu a mynegodd bryder bod y penderfyniad hwn wedi’i wneud heb ystyried yr effaith ar breswylwyr sydd angen siarad â swyddogion am broblemau tai, yn enwedig y rhai nad oedd yn gallu cael gwybodaeth yn electronig.   Mynegodd bryder hefyd am y penderfyniad blaenorol i beidio â rhoi enwau tenantiaid i Aelodau pan fyddant yn symud i eiddo’r Cyngor ar eu wardiau a gofynnodd am i hyn gael ei ailystyried.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dale Selvester fod Aelodau yn cael enwau preswylwyr ar y gofrestr etholiadol, ac er bod hyn yn cael ei ddarparu dan ddeddfwriaeth wahanol, cytunodd â’r pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Attridge nad oedd Aelodau lleol yn cael enwau tenantiaid. Soniodd am y lefelau bodlonrwydd gwael iawn/gwael a amlinellwyd yn yr adroddiad gan ddweud bod hyn yn bryderus a bod angen darparu mwy o wybodaeth ar y rhesymau am hyn. Roedd yn croesawu’r cyfle i ymgeiswyr ddiweddaru eu hardal ymgeisio a soniodd am fatrics blaenorol oedd yn helpu ymgeiswyr i adolygu eu hardal ymgeisio.  Soniodd hefyd am y cyfrifydd rhestr aros a mynegodd bryder nad oedd yn bosibl rhoi gwybodaeth i ymgeiswyr am ba mor hir y byddent yn aros ac nid oedd eisiau codi eu gobeithion.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai ac Atal bod  ...  view the full Cofnodion text for item 26