Mater - cyfarfodydd

Membership of the River Dee Nutrient Management Board

Cyfarfod: 20/12/2022 - Cabinet (eitem 95)

95 Aelodaeth Bwrdd Rheoli Maethynnau Afon Dyfrdwy pdf icon PDF 163 KB

Pwrpas:        Cytuno i fod yn rhan o Fwrdd Rheoli Maethynnau Afon Dyfrdwy er mwyn mynd ati i liniaru ar effaith ffosffadau, a phenodi cynrychiolwyr y Cyngor o blith uwch-swyddogion ac Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i gymryd rhan yn ffurfiol mewn partneriaeth newydd ei sefydlu yng Ngogledd Cymru, sef ‘Bwrdd Rheoli Maethynnau Dalgylch y Ddyfrdwy’.  

 

Byddai cyfranogiad ochr yn ochr â Chyngor Wrecsam, cynghorau eraill Gogledd Cymru a chynghorau cyfagos yn Lloegr, Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru a D?r Cymru ac eraill gan gynnwys datblygwyr, tirfeddianwyr a’r sector amaethyddol, i oruchwylio’r gwaith o gydlynu a gweithredu strategaeth, a chynllun gweithredu i fynd i'r afael â llygredd ffosfforws yn Afon Dyfrdwy. 

 

Roedd yr adroddiad yn nodi'r rhesymau dros greu'r Bwrdd Cydgysylltu a'r cylch gorchwyl drafft.

 

Roedd Strategaeth Lleihau Ffosfforws Dalgylch y Ddyfrdwy (Tachwedd 2021) wedi’i hatodi i’r adroddiad ac wedi’i pharatoi ar y cyd gan Gynghorau Sir y Fflint a Wrecsam oherwydd bod yn rhaid iddynt fynd i’r afael â phroblem ffosfforws yn yr Archwiliadau Cyhoeddus i’w Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) eu hunain.

 

Roedd ffosfforws yn faetholyn a llygrydd yn deillio o dd?r gwastraff, yn tarddu'n bennaf o amaethyddiaeth, ond hefyd o ddatblygiad dynol presennol a newydd(tai ac ati). Yn hanesyddol, roedd wedi’i dynnu o dd?r gwastraff mewn gweithfeydd trin d?r cyn i’r d?r wedi’i drin gael ei ollwng i’r prif afonydd (yn achos Sir y Fflint, Afon Alyn a oedd wedyn yn llifo i Afon Dyfrdwy).

 

Ym mis Ionawr 2021, cyflwynodd Cyfoeth Naturiol Cymru gyfyngiadau

llawer llymach ar ollyngiadau ffosfforws i Afon Dyfrdwy er mwyn amddiffyn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid. Roedd y safon newydd wedi'i chymhwyso i bob ACA afon arall yng Nghymru.

 

Roedd y bwrdd newydd yn anstatudol ac ni fyddai ganddo bwerau i wneud penderfyniadau. Byddai angen i unrhyw argymhellion, megis y strategaeth derfynol a’r cynllun gweithredu, gael eu cymeradwyo gan Fyrddau Gweithredol y Cynghorau priodol (neu’r rhai cyfatebol).

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio a'r Amgylchedd) ddadansoddiad lefel uchel y bwrdd a'r is-grwpiau arfaethedig a fyddai'n cyfrannu at y Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu ac yn eu cydlynu. 

 

            Roedd cylch gorchwyl y bwrdd a’r is-grwpiau wedi’u hatodi i’r adroddiad ac yn seiliedig ar y dull a ddefnyddiwyd ym Mwrdd Afon Gwy.  Mater i'r bwrdd arfaethedig fyddai cytuno ar eu ffurf derfynol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Healey welliant i argymhelliad rhif 2 i ddarparu dirprwy pe na bai’r Aelod Cabinet ar gael i fod yn bresennol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod sefydlu, a rhan y Cyngor ym Mwrdd Rheoli Maethynnau Afon Dyfrdwy yn cael ei gefnogi;

 

(b)       Bod yr Aelod Cabinet dros Gynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd yn cael ei enwebu i gynrychioli'r Cyngor ar y bwrdd newydd, ac os nad yw'n gallu bod yn bresennol y dylai dirprwy fod yn bresennol i gynrychioli'r Cyngor; a

 

(c)        Rhoi cymeradwyaeth mewn egwyddor ar y Strategaeth Lleihau Ffosfforws Dalgylch Afon Dyfrdwy (Tachwedd 2021), (wedi’i atodi i’r adroddiad), yn amodol ar ystyried fersiynau pellach ar gyfer cymeradwyaeth wrth i’r Bwrdd newydd ddatblygu a mireinio’r strategaeth a’r cynllun gweithredu cysylltiedig.