Mater - cyfarfodydd
Pension Administration/Communications Update
Cyfarfod: 23/11/2022 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 31)
31 Diweddariad Gweinyddu a Chyfathrebu PDF 159 KB
Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor mewn perthynas â materion gweinyddu a chyfathrebu.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Pension Administration/Communications Update, eitem 31 PDF 185 KB
- Enc. 2 for Pension Administration/Communications Update, eitem 31 PDF 151 KB
- Enc. 3 for Pension Administration/Communications Update, eitem 31 PDF 212 KB
- Enc. 4 for Pension Administration/Communications Update, eitem 31 PDF 290 KB
- Enc. 5 for Pension Administration/Communications Update, eitem 31 PDF 2 MB
- Enc. 6 for Pension Administration/Communications Update, eitem 31 PDF 288 KB
- Enc. 7 for Pension Administration/Communications Update, eitem 31 PDF 56 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Diweddariad Gweinyddu a Chyfathrebu
Cofnodion:
Nododd Mrs K Williams y pwyntiau allweddol canlynol o’r adroddiad:
- Roedd A6 ac A7 yn y diweddariad cynllun busnes 2022/23 ym mharagraff 1.01 yn amlinellu’r adolygiad o’r polisïau a’r strategaethau a hefyd y trefniadau gwirio bodolaeth pensiynwyr. Amlygwyd bod y camau hyn ar waith ond eu bod rhywfaint ar eu hôl hi oherwydd blaenoriaethau yn gwrthdaro a llwyth gwaith cynyddol.
- Roedd oedi wedi bod o ran adnewyddu’r Strategaeth Gyfathrebu oherwydd swydd wag y Swyddog Cyfathrebu. Fodd bynnag, roedd y swydd hon wedi’i llenwi bellach a chynnydd da yn cael ei wneud.
- Dau faes allweddol a oedd yn achosi cynnydd mawr o ran llwyth gwaith oedd y dyfarniadau cyflog ar gyfer 2021/22 a nifer yr aelodau gohiriedig cymwys a oedd yn cymryd eu buddion. Mae’r ddau fater uchod yn effeithio ar allu’r Gronfa i gwblhau ei gwaith busnes arferol o fewn terfynau amser rheoleiddio ac yn unol â safonau gwasanaeth a gytunwyd arnynt yn fewnol.
- Cytunwyd a thalwyd y dyfarniad cyflog wedi’i ôl-ddyddio ym mis Mawrth 2022. Fodd bynnag, fe arweiniodd at ail-gyfrifo buddion sawl aelod a oedd wedi gadael y cynllun yn ystod 2021/22. Ar gyfer 2022/23, oherwydd gwerth y dyfarniad cyflog, roedd yr effaith yn llawer mwy sylweddol gan arwain at nifer uchel o geisiadau i ail-gyfrifo. Roedd yna eisoes dros 1,100 o geisiadau ar gyfer dyfarniad 2022/23 a oedd yn llawer iawn o waith ychwanegol o’i gymharu â 2021/22. Nid yw’r tîm yn gallu ail-gyfrifo fesul llwyth oherwydd amgylchiadau unigol pob aelod. Felly, gwneir yr holl ail-gyfrifiadau ar sail unigol.
- Mae’r tîm yn cynnal adroddiad misol i nodi nifer yr aelodau gohiriedig cymwys sy’n nesáu at 60 mlwydd oed sydd efallai’n dymuno cymryd eu buddion pensiwn. Mae’r ffigyrau hyn yn cynyddu bob mis, y rhai hynny ar yr adroddiad sydd angen cysylltu â nhw, ac yna y rhai hynny sy’n dewis cymryd eu buddion yn dilyn yr ohebiaeth gychwynnol honno. Mae’r Rheolwr Gweinyddu yn ymchwilio i unrhyw dueddiadau posibl i sicrhau bod y tîm yn cael adnoddau priodol yn y dyfodol. Roedd y siart ar achosion heb eu cwblhau yn Atodiad 3 yn dangos bod nifer yr achosion heb eu cwblhau wedi gostwng o dros 10,000 yn 2018 i 5,000 erbyn hyn. Roedd y tîm yn parhau i chwilio am arbedion drwy brosesau mwy awtomatig. Mae Mrs K Williams hefyd yn ystyried strwythur y tîm yn y dyfodol yn cynnwys tîm prosiect posibl i sicrhau nad yw gwasanaethau busnes yn dirywio.
- Er gwaethaf y swyddi gwag ar hyn o bryd, cwblhawyd 8,552 achos yn y chwarter diwethaf, o’i gymharu â 7,731 yn yr un cyfnod adrodd llynedd.
- Roedd nifer yr achosion yn dod i mewn eisoes yn 9,171 o’i gymharu â 9,210 yn ystod yr un cyfnod llynedd. Fodd bynnag, roedd y 9,210 achos yn cynnwys ôl-groniad o weithwyr newydd gan un cyflogwr penodol a throsglwyddiad TUPE sylweddol), ac felly nid oedd y ffigyrau hyn yn wir adlewyrchiad o lwyth gwaith arferol y tîm y llynedd.
- Roedd Atodiad 4 yn ... view the full Cofnodion text for item 31