Mater - cyfarfodydd

Funding, Flight-Path and Risk Management Framework

Cyfarfod: 23/11/2022 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 27)

27 Fframwaith Rheoli Risg, Llwybr Hedfan a Chyllid pdf icon PDF 112 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor ar y sefyllfa gyllido, a gweithrediad y fframwaith rheoli risg a llwybr hedfan.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd Mr Page y pwyntiau allweddol canlynol:

-          Roedd y sefyllfa gyllido ar 30 Medi 2022 wedi gostwng i 102%, o 105% ar 31 Mawrth 2022. Ers hynny, gwelwyd cynnydd o ran y lefel gyllido a oedd yn newyddion da i’r Gronfa er gwaethaf anwadalrwydd y marchnadoedd yn Ch3 2022.

-          Roedd y fframwaith rheoli risg wedi cael ei roi ar brawf, yn enwedig yn ystod mis Medi a Hydref 2022 ond serch hynny roedd y fframwaith wedi gwasanaethu’r Gronfa’n dda. Roedd yr adroddiad yn amlygu perfformiad pob elfen wahanol o’r fframwaith rheoli risg.

-       Gwelwyd gostyngiad mewn ecwiti ond roedd wedi’i ddiogelu gan y portffolio ecwiti synthetig felly bu i’r amddiffyniad ar y gyfran honno o’r portffolio ychwanegu gwerth dros y chwarter.

-       Bu i’r bunt wanhau’n sylweddol dros y chwarter, a gwnaed colledion ar strategaeth fantoli FX. Fodd bynnag, oherwydd sicrwydd o 100% rhag chwyddiant, roedd y colledion FX a wnaed wedi cael eu gosod yn erbyn yr enillion a wnaed ar yr asedau ffisegol a fuddsoddir ynddynt dramor.

-       Y strategaeth LDI oedd y prif ffocws o ystyried anwadalrwydd y farchnad gilt yn ddiweddar. Roedd lefel y rhagfantoli ar gyfer cyfraddau llog wedi cynyddu o fewn y fframwaith sbardunau marchnad o oddeutu 20% i 50%. Roedd lefel y rhagfantoli ar gyfer chwyddiant yn parhau i fod yn 40% ar 30 Medi 2022, gan ddarparu amddiffyniad gwerthfawr rhag chwyddiant cynyddol dros y flwyddyn.

-       Roedd anwadalrwydd eithafol o ran y giltiau hyd at bwynt lle’r oedd bron yn gamweithredol ac roedd y siart ar dudalen 282 yn dangos y camau olrhain drwy gydol mis Medi a mis Hydref 2022 a pha mor gyflym oedd y cyfnod hwn. Er gwaethaf yr anwadalrwydd, rheolwyd hyn yn dda gan y fframwaith sicrwydd cadarn a oedd yn weithredol.

-       Ar ôl cyhoeddi’r datganiad cyllidol, bu cynnydd cyflym mewn arenillion giltiau a gostyngiad cyflym yng ngwerth giltiau. Dros gyfnod o ychydig ddyddiau, bu i arenillion giltiau godi a gostwng, gan gynyddu o 2.5% ac yna gostwng o 2.5%, ac nid oedd hynny erioed wedi digwydd o’r blaen. Yna, fe aeth Banc Lloegr ati i sefydlogi’r farchnad am gyfnod o bythefnos ac fe aeth yr arenillion giltiau i lawr eto ond buan iawn y gwnaethant ddechrau cynyddu’n raddol eto. Yn ystod y bythefnos, bu i’r diwydiant cynllun pensiwn werthu nifer fawr o asedau i leihau dyledion y portffolios LDI. Fodd bynnag, roedd pryderon o hyd am arenillion giltiau yn codi eto ond, oherwydd cefnogaeth gan Fanc Lloegr a’r Canghellor newydd a wnaeth ddirwyn y polisiau yn ôl, fe sefydlogwyd y farchnad.

-       Roedd Mr Page yn falch iawn â fframwaith llywodraethu hynod gryf y Gronfa, nododd fod y Gronfa nid yn unig mewn sefyllfa dda i wrthsefyll ansefydlogrwydd y farchnad ar hyn o bryd, roedd hefyd mewn sefyllfa i gymryd cyfleoedd. Roedd gan y Gronfa fframwaith yn weithredol lle’r oedd yn cymryd y cyfle i fuddsoddi mewn giltiau pan oeddent yn rhad, gyda’r lefelau arenillion hynny wedi’u diffinio ymlaen llaw. Ar ben hynny, roedd  ...  view the full Cofnodion text for item 27