Mater - cyfarfodydd

Primary Legislation Changes

Cyfarfod: 27/10/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 26)

26 Newidiadau i’r Ddeddfwriaeth Sylfaenol pdf icon PDF 167 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar newidiadau arfaethedig i’r Ddeddfwriaeth Sylfaenol gan Lywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Rheolwr Comisiynu bod Llywodraeth Cymru yn ceisio safbwyntiau ar nifer o gynigion am newidiadau gael eu gwneud i ddeddfwriaeth sylfaenol drwy broses ymgynghori, gyda holl ymatebion i’r ymgynghoriad yn dod i law erbyn 7 Tachwedd.   Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys:-

 

·         Dileu elw o’r gofal ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.

·         Cyflwyno Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus

·         Hysbysu gorfodol am blant ac oedolion sy’n wynebu risg

·         Newidiadau i reoliadau i ddarparwyr gwasanaeth, unigolyn cyfrifol a gweithlu gofal cymdeithasol.

 

Cafodd ymateb drafft gan Reolwyr Gwasanaeth o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol eu cynnwys o fewn yr adroddiad.  Byddai safbwyntiau gan Bortffolio eraill o fewn y Cyngor yn cael eu casglu ac roedd Aelodau hefyd yn cael eu hannog i gyflwyno unrhyw sylwadau roeddynt eisiau eu cynnwys i’r Rheolwr Comisiynu cyn bydd yr ymateb yn cael ei gwblhau.

 

Cododd y Cynghorydd Mackie bryderon ynghylch effaith y newid arfaethedig yn y ddeddfwriaeth i ddileu elw o Gartrefi Gofal Plant, ac awgrymodd petai Lywodraeth Cymru yn rhoi mwy o arian i’r gwasanaeth yr oedd y Cyngor yn ei ddarparu, yna byddant yn gallu cynnal eu hunain. Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad o’u rhaglen i Lywodraeth i ddileu elw o farchnad gofal preswyl yng Nghymru. Ychwanegodd bod y Cyngor yn cytuno gyda hyn mewn rhai ffyrdd, sef eu bod eisiau gwasanaeth rheoledig mewnol yn gyhoeddus, ond ni fyddai’n gallu fforddio i ansefydlogi’r farchnad ofal gan eu bod yn dibynnu ar y darparwyr.

 

            Gofynnodd y Cadeirydd am eglurhad ar daliadau uniongyrchol rhwng y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd.  Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) os oedd gan rywun ofal a ariennir gan awdurdod lleol, gallent gael taliadau uniongyrchol a oedd yn rhoi rhyddid iddynt wneud penderfyniadau eu hunain, ond nid oedd hyn wedi bod yn bosibl gyda Gofal Iechyd Parhaus GIG a oedd yn credu ei fod yn anghywir.  Roedd nifer o bobl sy’n cael eu cefnogi gan y Cyngor yn symud ar hyd y sbectrwm o awdurdod lleol i Ofal Iechyd Parhaus ac yn colli’r hawl hynny.

 

Eglurodd y Rheolwr Comisiynu i ryw raddau, roedd taliadau uniongyrchol gyda CHC eisoes ar y ffordd i ddatblygu ymddiriedolaeth wedi’u personoli, ac roedd y Cyngor yn croesawu hyn gan y byddai’n rhoi fwy o hyblygrwydd i unigolion a dewis iddynt dros eu gofal a chymorth.  Fodd bynnag, dywedodd er mwyn sefydlu’r system bod ychydig o rwystrau roedd angen eu goresgyn a phrosesau oedd angen eu rhoi mewn lle.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Makie a’u heilio gan y Cynghorydd Owen.

 

          PENDERFYNWYD:

 

Bod yr Aelodau yn cefnogi’r ymateb y mae Cyngor Sir y Fflint wedi’i gynhyrchu i’w roi i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r cynigion am newid i ddeddfwriaeth sylfaenol.