Mater - cyfarfodydd

Music Service Theatr Clwyd

Cyfarfod: 02/02/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 44)

44 Gwasanaeth Cerdd Theatr Clwyd pdf icon PDF 151 KB

Darparu gwybodaeth i’r Pwyllgor am y Gwasanaeth Cerdd, yn cynnwys nifer y dysgwyr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Liam Evans Ford, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Clwyd a Mr Aled Marshman, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth, Ymddiriedaeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd i’r cyfarfod, a fyddai’n amlinellu sut y gwnaethon nhw ac aelodau o Ymddiriedaeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd weithio i wella’r cyfleoedd dysgu a phrofiadau myfyrwyr.  

 

Ychwanegodd y Cadeirydd bod cael eu haddysgu am gerddoriaeth a’r sgiliau sy’n gysylltiedig â dysgu sut i chwarae offeryn wedi helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau iaith, eu sgiliau rhesymu, eu sgiliau dysgu’n gritigol a sensitif ac fe all ddiffinio datblygiad sgiliau echddygol a gwella’r cof.   Mae ochr greadigol a pherfformio’r pwnc ynghyd â gwell dealltwriaeth o’r rôl mewn cerddoriaeth a hanes a chymdeithas gyfoes i gyd yn ychwanegu at addysg lawnach i’r myfyriwr.   Fel awdurdod, roedd Cyngor Sir y Fflint yn rhagweithiol yn eu hymdrechion i sicrhau bod bob myfyriwr yn cael y cyfle i wella eu profiad dysgu a hyrwyddo eu doniau, waeth pwy oeddent.  Roedd hyn yn cynnwys myfyrwyr sy’n derbyn grant disgyblion a ddyfarnwyd i ysgolion i gefnogi myfyrwyr a oedd yn gymwys am un ai prydau ysgol am ddim neu a oedd yn derbyn gofal.   Roedd hwn yn grant wedi’i dargedu a roddwyd i oresgyn y rhwystrau a allai atal myfyriwr rhag cyrraedd ei botensial llawn.   

 

Cyflwynodd Mr. Liam Evans-Ford adroddiad i roi diweddariad a throsolwg o Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd yn dilyn ei 18 mis cyntaf o ddarpariaeth, fel y gosodwyd yn erbyn egwyddorion trosglwyddo cytunedig yn 2019 gan y Portffolio Addysg o fewn y Cyngor i Theatr Clwyd.  Dyluniwyd y trosglwyddiad hwn i ddiogelu i ddechrau, ond hefyd i wella darpariaeth cerdd gwasanaethau addysg ymhellachi blant a phobl ifanc Sir y Fflint a oedd o danfygythiad oherwydd y pwysau ariannol cynyddol ar y Cyngor.  

 

            Wrth gyfeirio at yr adroddiad, amlinellodd Mr. Aled Marshman yr effaith negyddol yr oedd y pandemig Covid wedi’i gael ar gerddoriaeth a’r celfyddydau, gyda gostyngiad o 75% mewn dysgwyr rhwng mis Mawrth 2020 a mis Mai 2020.   Dywedodd y myfyrwyr hynny a oedd wedi aros gyda’r gwasanaeth pa mor bwysig yr oedd wedi bod i’w hiechyd a’u lles.   Rhoddodd wybodaeth gefndir ar y trafodaethau a gynhaliwyd ym mis Medi 2020 o ran y ffordd ymlaen gyda’r penderfyniad i barhau ar-lein am y flwyddyn ond roedd hyn yn heriol ac roedd y cynnydd mewn niferoedd yn araf.    Ym mis Medi 2021, gwelwyd niferoedd y dysgwyr yn dyblu wrth ddychwelyd i’r ysgol ond y nod oedd tyfu ymhellach i alluogi pob myfyriwr i gael y cyfle i fwynhau buddion cerddoriaeth yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol.

 

Rhoddodd Mr. Marshman wybodaeth fanwl am y ddogfen gwmpasu, y polisi codi tâl a’r pum ensemble, a oedd wedi cynyddu i wyth yn dilyn y niferoedd cynyddol ym mis Medi 2022.    Rhoddwyd mwy o bwyslais ar y dechreuwyr newydd i greu taith bwysig iddynt a rhoddodd wybodaeth ar hyblygrwydd y system sydd ar waith i ysgolion.   Darparwyd gwybodaeth hefyd ar y Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth yng Nghymru a fyddai’n cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru, yn enwedig mewn ysgolion  ...  view the full Cofnodion text for item 44