Mater - cyfarfodydd

Council Plan 2022-23 Mid-Year Performance Reporting (EE OSC)

Cyfarfod: 10/01/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 46)

46 Adroddiad Canol Blwyddyn ar Berfformiad Cynllun y Cyngor 2022-23 pdf icon PDF 116 KB

Adolygu’rlefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad, dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr adroddiad canol blwyddyn hwn yn trafod y meysydd o Gynllun y Cyngor a oedd yn ymwneud â’r Pwyllgor hwn. 

 

Darparodd wybodaeth fanwl am y pedwar maes risg coch.

 

·      Caffael - ymgysylltwyd â chwmnïau llai i gyflawni prosiectau ynni neu arbedion ynni mewn eiddo a rhoddodd fanylion am y System Brosesu Ddeinamig.

·      Cysylltedd Digidol mewn Ardaloedd Gwledig - cyfeiriodd at y cyfarfod ym mis Rhagfyr lle nodwyd hyn fel pwysau gan nad oedd swyddog wedi cael ei benodi.  Gobeithiwyd penodi rhywun ar gyfer y rôl cyn y flwyddyn ariannol newydd.

·      Gwerth Cymdeithasol - roedd hyn yn rhywbeth a ddylai fynd i bob maes o’r Cyngor.

 

            Adroddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd) ar y risg goch ar gyfer y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.  Disgwyliwyd arweiniad pellach gan Lywodraeth Cymru ar sut yr oedd disgwyl i awdurdodau lleol gyflawni’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.  Cyhoeddwyd canllawiau drafft i awdurdodau lleol wneud sylwadau arnynt cyn y Nadolig ac roedd sylwadau’r awdurdod wedi cael eu dychwelyd iddynt.  Roedd hyn yn parhau i fod yn risg goch gan nad oedd cynllun pendant ar sut yr oedd am gael ei gyflawni.  Roedd yr awdurdod yn cynnig adolygu’r Strategaeth Trafnidiaeth Integredig ar gyfer Sir y Fflint i ddeall sut yr oedd hon yn bwydo i mewn i’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ond nid oedd modd gwneud hyn nes yr oedd Llywodraeth Cymru wedi darparu amlinelliad o’u disgwyliadau.

           

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Richard Lloyd ac Ian Hodge.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ac yn ffyddiog y cyflawnid blaenoriaethau canol blwyddyn Cynllun y Cyngor 2022/23.

 

(b)          Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo ac yn cefnogi’r perfformiad cyffredinol yn ôl dangosyddion perfformiad canol blwyddyn Cynllun y Cyngor 2022/23.

 

(c)          Bod y Pwyllgor yn fodlon ar yr esboniadau a roddwyd ar gyfer y meysydd lle bu tanberfformiad.