Mater - cyfarfodydd

Mid-Year Performance Monitoring Report

Cyfarfod: 12/01/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 71)

71 Adroddiad Monitro Perfformiad Canol Blwyddyn pdf icon PDF 109 KB

Pwrpas:        Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad monitro i adolygu’r cynnydd ar ganol y flwyddyn yn erbyn blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a nodwyd ar gyfer 2022/23. Roedd yr adroddiad yn un sy’n seiliedig ar eithriad yn canolbwyntio ar feysydd perfformiad nad ydynt yn cyrraedd eu targed ar hyn o bryd.

 

Ar y cyfan roedd yr adroddiad yn un cadarnhaol gyda 70% o'r dangosyddion perfformiad (DP) wedi bodloni neu ragori ar eu targedau (gwyrdd).  O'r rhai a adroddodd eu bod yn tangyflawni yn erbyn targed (coch), dim ond un oedd yn berthnasol i'r Pwyllgor hwn ac roedd yn ymwneud â nifer y sesiynau dysgu digidol a ddarparwyd, o dan y thema Tlodi.

 

Soniodd y Cadeirydd am y sefyllfa  ar gyfer cwblhau cartrefi Cyngor a chartrefi Landlordiaid Cymdeithasol Preswyl (RSL) newydd a oedd yn is na'r targed. Roedd ei sylwadau ar wella perfformiad ailgylchu drwy godi ymwybyddiaeth ac annog trigolion wedi'u codi yng nghyfarfod diweddar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a'r Economi.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Bill Crease.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r lefelau o gynnydd a hyder o ran cyflawniadau’r blaenoriaethau o fewn Cynllun y Cyngor 2022/23;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo a chefnogi perfformiad cyffredinol yn erbyn dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor 2022/23 fel y mae ar ganol y flwyddyn; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor wedi cael sicrwydd drwy’r eglurhad a roddwyd ar gyfer y meysydd hynny sy’n tangyflawni.