Mater - cyfarfodydd

Council Plan 2022-23 Mid-Year Performance Reporting (EYC OSC))

Cyfarfod: 02/02/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 45)

45 Adroddiad Canol Blwyddyn ar Berfformiad Cynllun y Cyngor 2022-23 pdf icon PDF 111 KB

Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad monitro i adolygu’r cynnydd canol blwyddyn yn erbyn blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a nodwyd ar gyfer 2022/23.   Roedd yr adroddiad sefyllfa derfynol ar gyfer Cynllun y Cyngor 2022/23 yn dangos bod 59% o weithgareddau’n gwneud cynnydd da. Roedd 70% o’r dangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori eu targedau, roedd 9% yn cael eu monitro’n agos ac nid oedd 21% yn cyrraedd y targed ar hyn o bryd.

 

Ar hyn o bryd roedd un gweithgaredd yn dangos statws COG coch sy’n berthnasol i’r Pwyllgor o ran uwchsgilio gweithwyr portffolio trwy gynnig dysgu proffesiynol GwE a chyfleoedd hyfforddiant priodol eraill.   Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth at ei gilydd gyda manylion cylchredeg holiadur i weithwyr portffolio i ddeall pa hyfforddiant yr oeddent yn teimlo y byddai’n fuddiol iddyn nhw.   Roedd yr holiaduron wedi’u dychwelyd ac roeddent yn cael eu coladu ar hyn o bryd er mwyn galluogi cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r meysydd o angen datblygiadol ar gyfer y portffolio a byddai hwn ar waith erbyn mis Ebrill 2023.  

 

Croesawodd y Cadeirydd bod Cynllun y Cyngor ar gyfer 2023 yn cael ei fonitro’n gyson a bod ei gynnydd yn cael ei adolygu a’i fesur yn erbyn y meini prawf ar gyfer llwyddiant y camau gweithredu oddi fewn iddo.   Bu iddi ddiolch i staff y portffolio addysg am yr adroddiad addysg a sgiliau cadarnhaol gyda’r data yn tynnu sylw at y sgorau COG oedd yn disgyn rhwng oren, lle’r oedd y camau gweithredu yn cael eu datblygu neu wyrdd, lle’r oedd y camau gweithredu yn gyflawn neu ar y trywydd iawn. 

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Dave Mackie o ran dysgu digidol a Gwasanaethau Ieuenctid Integredig, eglurodd y Prif Swyddog bod yr Ymgynghorydd Dysgu Cynradd wedi darparu cymorth ardderchog i ysgolion gydag adolygiadau rheolaidd yn cael eu cynnal ar yr offer, meddalwedd a chaledwedd sydd ar gael i alluogi gwelliannau yn y strwythur digidol.   Roedd gwaith hefyd yn parhau i sicrhau bod ysgolion yn gallu cael mynediad at y cyllid helaeth a ddarperir i Lywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer hyn a gafodd ei adrodd i gyfarfodydd Bwrdd Digidol Hwb.   Amlinellodd yr Uwch Reolwr, Systemau Gwella Ysgolion, y gwaith a wnaed ar draws Cymru o ran cyflwyno’r rhaglen Hwb gyda’r Ymgynghorydd Dysgu Cynradd yn ymgymryd ag archwiliadau rheolaidd o’r ddarpariaeth sydd ar gael i’r 24,000 o ddysgwyr ar draws yr holl ysgolion yn Sir y Fflint.   Cynhaliwyd trafodaethau gydag ysgolion hefyd, a oedd gyda’r cysylltiad o ddydd i ddydd hwnnw gyda rhieni, i ddeall unrhyw newid mewn amgylchiadau neu anawsterau a wynebwyd gan ddisgyblion wrth gael mynediad at yr isadeiledd digidol y tu allan i’r ysgol.   Cynhaliwyd trafodaethau parhaus gyda LlC o ran symud hwn ymlaen a chynnal buddsoddiad cenedlaethol trwy’r Rhaglen Hwb i wella’r strwythur digidol a darparu’r cwricwlwm newydd.  

 

            Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y cynllun cyflawni ar gyfer Gwasanaethau Ieuenctid Integredig ac eglurodd bod y targedau yng Nghynllun y Cyngor wedi’u gosod cyn y flwyddyn adrodd hon ac y  ...  view the full Cofnodion text for item 45