Mater - cyfarfodydd

Theatr Clwyd Project - Update

Cyfarfod: 23/09/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 30)

Prosiect Theatr Clwyd - Diweddariad

Pwrpas:        Bod y Pwyllgor yn cefnogi cyfran y Cyngor o’r cynnydd disgwyliedig mewn costau ar gyfer adnewyddiad cyfalaf y Theatr cyhyd â bod Llywodraeth Cymru hefyd yn cytuno i ysgwyddo ei chyfran o’r costau ychwanegol yn unol â’r cyfrannau y cytunwyd arnynt eisoes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad yn ceisio cefnogaeth i’r Cyngor dalu eu rhan nhw o’r cynnydd a ragwelir yn y costau ar gyfer gwaith ailwampio cyfalaf Theatr Clwyd, cyn belled bod Llywodraeth Cymru (LlC) yn cytuno i dalu eu rhan nhw o’r costau ychwanegol yn unol â’r cyfrannau a gytunwyd yn flaenorol.   Awgrymodd y dylai Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Clwyd, a oedd yn bresennol i ddarparu gwybodaeth ac ymateb i gwestiynau, aros yn y cyfarfod nes roedd y Pwyllgor yn dymuno cael trafodaeth gyfrinachol.

 

Darparodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Corfforaethol (Rhaglen Gyfalaf ac Asedau) wybodaeth gefndirol am agweddau allweddol o’r adroddiad.

 

Gan gydnabod gwerth cefnogaeth y Cyngor ar gyfer Theatr Clwyd, darparodd y Cyfarwyddwr Gweithredol wybodaeth ar ffrydiau buddsoddi a sicrwydd ar y prosiect drwy adroddiad annibynnol.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Ian Roberts wybod i Aelodau am fwriad y Cabinet i gymeradwyo’r £1.5 miliwn ychwanegol i barhau â’r prosiect.   Fodd bynnag, pe bai LlC yn amharod neu’n methu â chynyddu eu cyfraniad mewn modd cymesur, nododd y Cynghorydd Roberts y byddai’r Cabinet yn cyfeirio’r mater at y Cyngor llawn er mwyn gwneud penderfyniad terfynol.

 

Mewn ymateb i’r cwestiynau manwl gan Aelodau, rhoddwyd esboniad am ystod o broblemau gan gynnwys elfennau ariannol a threfniadau contractio gyda’r prosiect.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad.