Mater - cyfarfodydd

Amendments to Clwyd Pension Fund Constitution

Cyfarfod: 18/10/2022 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 46)

46 Diwygiadau i Gyfansoddiad Cronfa Bensiynau Clwyd pdf icon PDF 109 KB

Pwrpas:        I adolygu a diweddaru'r Cynllun Dirprwyo ar gyfer Cronfa Bensiwn Clwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad i adolygu a diweddaru’r Cynllun Dirprwyo ar gyfer Cronfa Bensiynau Clwyd.  Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr adroddiad yn amlinellu’r newidiadau arfaethedig i’r Cyfansoddiad a Phrotocol y Bwrdd Pensiwn i:

 

  • adlewyrchu’r cynnig mai Pennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd yw’r uwch

swyddog â chyfrifoldeb am weithredu’r Gronfa Bensiynau, yn hytrach na’r

Prif Weithredwr; a

  • sicrhau bod y Cyfansoddiad yn adlewyrchu statws rheoli cronfa bensiynau

fel swyddogaeth anweithredol yn llawn.

 

Roedd mân newidiadau eraill wedi'u cynnwys yn yr Atodiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ted Palmer yr argymhelliad yn yr adroddiad a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Rob Davies.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r newidiadau a amlinellwyd yn yr Atodiad i Gyfansoddiad Cronfa Bensiynau Clwyd a Phrotocol y Bwrdd Pensiwn.