Mater - cyfarfodydd
Amendments to Clwyd Pension Fund Constitution
Cyfarfod: 18/10/2022 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 46)
46 Diwygiadau i Gyfansoddiad Cronfa Bensiynau Clwyd PDF 109 KB
Pwrpas: I adolygu a diweddaru'r Cynllun Dirprwyo ar gyfer Cronfa Bensiwn Clwyd.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Amendments to Clwyd Pension Fund Constitution, eitem 46 PDF 239 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Diwygiadau i Gyfansoddiad Cronfa Bensiynau Clwyd
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad i adolygu a diweddaru’r Cynllun Dirprwyo ar gyfer Cronfa Bensiynau Clwyd. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr adroddiad yn amlinellu’r newidiadau arfaethedig i’r Cyfansoddiad a Phrotocol y Bwrdd Pensiwn i:
- adlewyrchu’r cynnig mai Pennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd yw’r uwch
swyddog â chyfrifoldeb am weithredu’r Gronfa Bensiynau, yn hytrach na’r
Prif Weithredwr; a
- sicrhau bod y Cyfansoddiad yn adlewyrchu statws rheoli cronfa bensiynau
fel swyddogaeth anweithredol yn llawn.
Roedd mân newidiadau eraill wedi'u cynnwys yn yr Atodiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Ted Palmer yr argymhelliad yn yr adroddiad a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Rob Davies.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r newidiadau a amlinellwyd yn yr Atodiad i Gyfansoddiad Cronfa Bensiynau Clwyd a Phrotocol y Bwrdd Pensiwn.