Mater - cyfarfodydd

Household Recycling Centre Vehicle Permit Policy

Cyfarfod: 15/11/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 29)

29 Polisi Pás Cerbyd i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Ty pdf icon PDF 122 KB

Adolygu gweithrediadau a meini prawf pás cerbyd ar gyfer canolfannau ailgylchu gwastraff t?.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) yr adroddiad.  Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr adroddiad yn darparu trosolwg o effaith y polisi diwygiedig ynghyd â manylion yr adolygiad a gynhaliwyd a’r cynigion ar gyfer diwygio’r polisi. Cyflwynwyd ystyriaethau pellach

ar weithrediadau ehangach Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref gyda’r bwriad o gyflwyno arbedion a gwelliannau pellach i’r gwasanaeth. 

 

            Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio yr adroddiad a darparodd drosolwg o’r prif ystyriaethau mewn perthynas â gweithredu’r polisi pas cerbyd yn yr adroddiad. Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio at y ddau weithdy i aelodau a gynhaliwyd yn ystod mis Medi 2022 i gynnal adolygiad o’r polisi er mwyn i Aelodau allu cyflwyno adborth neu bryderon yr etholwyr i swyddogion.  Ehangwyd yr adolygiad i gynnwys gweithrediadau ehangach y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, gyda’r bwriad o gyflwyno gwelliannau pellach i’r gwasanaeth ac arbedion effeithlonrwydd a chynyddu’r cyfleoedd ar gyfer ailgylchu. Roedd manylion yngl?n â chynnwys y gweithdai ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio, yn dilyn gwerthusiad o’r adborth a ddarparwyd o’r gweithdai, bod nifer o gynigion wedi cael eu cyflwyno i’w hystyried.  Roedd sylwadau’r Aelodau, yr ystyriaethau cysylltiedig i’w hadolygu ac, yn dilyn gwerthusiad o fanteision ac anfanteision yr ystyriaethau hynny, canlyniad arfaethedig ar gyfer bob sylw, wedi’u nodi yn Atodiad 3 yr adroddiad. Ysgrifennwyd y canlyniadau arfaethedig mewn dogfen bolisi ddiwygiedig i’w hystyried. Roedd y diwygiadau a’r cymalau newydd i’w cynnwys yn y polisi wedi’u hamlygu yn Atodiad 4.

 

Hefyd, adroddodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio ar welliannau pellach i wasanaeth ac arbedion effeithlonrwydd mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ac fe gyfeiriodd at y cynigion o ran y gwasanaeth archebu, codi tâl am waredu gwastraff (Masnachol / Elusen), oriau agor amgen a chodi tâl am gyflyrwr pridd.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Roy Wakelam at dudalen 55, Atodiad 4 yn yr adroddiad, a gofynnodd a fyddai modd diwygio’r pwynt bwled ‘cerbyd symudedd’ i ‘unrhyw gerbyd symudedd’.  Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio y gellid rhoi eglurder o ran cyfyngiadau uchder a hyd y cerbyd yn y polisi. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Mike Peers bryderon yngl?n â’r rheswm dros wrthod cerbydau gydag arwyddion ysgrifenedig arnynt gyda gwastraff masnachol yn benodol a dywedodd nad oedd y polisi yn cynnwys unrhyw beth nad oedd yn gysylltiedig â gwastraff masnachol.  Gofynnodd bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i eithriad ar gyfer preswylwyr â cherbydau ag arwyddion ysgrifenedig arnynt ac nad ydynt yn gysylltiedig â busnes, nac yn cynhyrchu gwastraff masnachol, a lle’r oedd y cerbyd wedi’i gofrestru i eiddo preswyl ac yn destun treth y cyngor.  Gofynnodd bod y polisi’n cael ei ddiwygio i adlewyrchu’r amgylchiadau hynny, neu’n cael ei oedi er mwyn i’r Gwasanaethau Stryd allu datblygu eithriad. 

 

Cynigodd  y Cynghorydd Peers y dylai’r polisi gael ei ddiwygio i roi pas i’r preswylwyr hynny sydd â cherbyd gydag arwydd ysgrifenedig arno ond nad ydynt yn cynhyrchu gwastraff masnachol nac ychwaith yn gysylltiedig â’r diwydiant adeiladu, ond yn hytrach yn defnyddio’r cerbyd i hyrwyddo eu busnes er budd y gymuned, a dywedodd  ...  view the full Cofnodion text for item 29