Mater - cyfarfodydd
Annual report on the Social Services Complaints and Compliments Procedure 2021-22
Cyfarfod: 27/10/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 21)
Pwrpas: Rhoi cyfle i’r aelodau graffu ar effeithlonrwydd y weithdrefn cwynion a sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu i wella darpariaeth gwasanaeth
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Annual report on the Social Services Complaints and Compliments Procedure 2021-22, eitem 21 PDF 57 KB
- Enc. 2 for Annual report on the Social Services Complaints and Compliments Procedure 2021-22, eitem 21 PDF 52 KB
- Enc. 3 for Annual report on the Social Services Complaints and Compliments Procedure 2021-22, eitem 21 PDF 47 KB
- Enc. 4 for Annual report on the Social Services Complaints and Compliments Procedure 2021-22, eitem 21 PDF 66 KB
- Gweddarllediad ar gyfer ADRODDIAD BLYNYDDOL AR WEITHDREFN CWYNION A CHANMOLIAETH Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2021-22
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Cwynion yr adroddiad yn cynghori’r Aelodau bod cynnydd bach yn y nifer o gwynion o fewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion, ond bod gwersi wedi eu dysgu, ac ar nodyn positif bod 251 o ganmoliaeth wedi dod i law. Hefyd dywedodd bod nifer o gwynion wedi gostwng o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol Plant a bod 204 o ganmoliaeth wedi dod i law.
Diolchodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) i’r Swyddog Cwynion a’r holl Reolwyr a ymatebodd i’r cwynion mewn ffordd effeithiol ac effeithlon a nodwyd bod cwynion yn gyfle ar gyfer dysgu.
Dywedodd y Cynghorydd Mackie bod yr adroddiad wedi’i gyflwyno’n dda, ond gofynnwyd a ddylai’r Cynghorwyr wneud mwy fel Pwyllgor Craffu. Ymatebodd y Cadeirydd yn dweud y byddai’n esgeulus iddynt beidio sôn amdano os oedd patrwm yn y cwynion, ond dylid rhoi’r cyfrifoldeb i’r Swyddogion o ddydd i ddydd.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Cunningham a’u heilio gan y Cynghorydd Claydon.
PENDERFYNWYD:
Bod yr Aelodau’n fodlon gydag effeithiolrwydd y drefn gwynion a bod gwersi’n cael eu dysgu i wella darpariaeth y gwasanaeth.