Mater - cyfarfodydd

Flintshire County Summer Playscheme 2022

Cyfarfod: 20/10/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 29)

29 Cynllun Chwarae Haf Sir y Fflint 2022 pdf icon PDF 90 KB

Darparu adborth ar Gynllun Chwarae Haf Sir y Fflint 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gyflwyno’r adroddiad, dywedodd yr Uwch Reolwr - Darpariaeth Ieuenctid Integredig bod Cynlluniau Chwarae’r Haf wedi bod yn cael eu cynnal yn llwyddiannus ers 1996.   Darparodd wybodaeth ar y 57 o gynlluniau chwarae a oedd yn cynnwys meini prawf ar gyfer safleoedd, a chyfranogiad 30 o Gynghorau Tref a Chymuned a’r 2 safle sy’n targedu’r Gymraeg.   Roedd dull dwyieithog yn cael ei ddatblygu gyda phob gweithiwr chwarae a oedd yn derbyn hyfforddiant Cymraeg.   Dros yr haf, cafwyd bron i 4,000 o gofrestriadau, gyda 15,500 yn mynychu’r sesiynau 2 awr, roedd y data’n cael ei gasglu’n ddigidol ar gyfer bob sesiwn.  Roedd hyn yn galluogi rhieni i gofrestru eu plant cyn mynychu er mwyn sicrhau bod y sesiynau’n cael eu cynnal yn llyfn gyda gwybodaeth mewn perthynas â’r plant eisoes wedi’i huwchlwytho.    Amlinellodd yr Asesiadau Risg Iechyd a Diogelwch ar-lein a’r refeniw gan Gynghorau Tref a Chymuned, y Grant Gwaith Chwarae a’r Grant Haf o Hwyl i gefnogi’r cynlluniau.   Roedd y sefyllfa mewn perthynas â’r cyllid ar gyfer Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles yn parhau i fod yn aneglur.    Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr hefyd at yr ymgynghoriad a gwblhawyd gyda’r bobl ifanc a’u teuluoedd a gafodd ei fwydo’n ôl er mwyn datblygu’r ddarpariaeth, ac amlinellodd sut y gellid datblygu’r ddarpariaeth chwarae ymhellach.

  

Myfyriodd yr Uwch Reolwr ar y gwaith a gwblhawyd gan Janet Roberts dros y 26 mlynedd diwethaf.   Roedd Janet yn ymddeol ac roedd arno eisiau diolch iddi’n bersonol am ei chefnogaeth.   Roedd hi’n gadael y gwasanaeth mewn sefyllfa gadarnhaol gyda 90 o bobl ifanc wedi’u cyflogi dros yr haf a rhai’n ymuno â’r Gwasanaeth Ieuenctid.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dave Mackie ei fod yn drist pan glywodd fod Janet yn gadael, a myfyriodd ar y trafodaethau yr oedd wedi’u cael gyda hi yn y Pwyllgor dros y blynyddoedd.   Cyfeiriodd at weithdai yr oedd wedi’u mynychu gyda Janet, dywedodd fod ei brwdfrydedd yn amlwg, a’i fod wedi bod yn bleser bod yn rhan o’i siwrnai.    

 

Gan gyfeirio at yr adroddiad, dywedodd y Cynghorydd Mackie yr hoffai fod wedi gweld yr amcanion a gwybodaeth ynghylch yr hyn roeddent yn ceisio ei gyflawni yn ystod paratoadau’r cynlluniau chwarae ynghyd â’r canlyniadau yn yr adroddiad.   Teimlai y byddai hyn yn galluogi’r Pwyllgor i ddeall cyfeiriad y gwasanaeth a gofyn cwestiynau.   Mewn ymateb i hynny, ystyriodd yr Uwch Reolwr Darpariaeth Ieuenctid Integredig bwyntiau’r Cynghorydd Mackie gan ddweud y byddai’r gwasanaeth yn gweithredu system newydd ym mis Ionawr, a fyddai’n galluogi proses ar gyfer mapio’r ddarpariaeth yn erbyn yr asesiad cyfleoedd chwarae digonol a data lleol eraill.   Amlinellodd sut fyddai’r data’n amlygu’r rhesymau pam fod cynlluniau’n cael eu lleoli mewn cymunedau arbennig, y fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau a ble nodwyd darpariaeth gynaliadwy. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd gan y Cynghorydd Carolyn Preece, cytunodd y Prif Swyddog i fynd i’r afael â’r mater mewn perthynas â’r llythyrau i Gynghorau Tref a Chymuned er mwyn ceisio cael yr hysbysiadau allan yn gynt yn ogystal â dangos effaith y cyfraniadau ar y cynllun.    Gan gyfeirio  ...  view the full Cofnodion text for item 29