Mater - cyfarfodydd

Integrated Youth Provision – Delivery Plan Update

Cyfarfod: 01/12/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 39)

39 Darpariaeth Ieuenctid Integredig - Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Cynllun Cyflawni pdf icon PDF 142 KB

Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am Gynllun Cyflawni’r Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Rhoddodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) wybod nad oedd yr Uwch Reolwr, Darpariaeth Ieuenctid Integredig yn gallu mynychu’r cyfarfod, ond roedd wedi paratoi’r adroddiad ac roedd hi wedi cytuno i rannu adborth a chwestiynau gan yr Aelodau gydag ef yn dilyn y cyfarfod.  

 

            Amlinellodd y Prif Swyddog y gwaith partneriaeth a oedd yn mynd rhagddo i gefnogi pobl ifanc fel y nodir yn yr adroddiad.  Darparodd wybodaeth am y gefnogaeth, datblygiad a’r hyfforddiant a ddarperir i’r partneriaid hynny i alluogi darpariaeth gwasanaeth effeithiol.  Eglurodd bod heriau recriwtio sylweddol ar gyfer y gwasanaeth hwn a oedd wedi cael effaith ar y gwasanaeth y gellid ei darparu, ond eglurodd bod gwaith ieuenctid yn werthfawr tu hwnt ac yn cynnwys llwybrau cynnydd ar gyfer pobl ifanc sy’n defnyddio’r gwasanaeth i ystyried datblygu gyrfa yn y gwasanaeth hwnnw.   Cyfeiriodd at y gwaith partneriaeth Fframwaith Prentisiaeth gydag Addysg Oedolion Cymru a Phrifysgol Glynd?r i sicrhau bod cymwysterau ar gael i bobl ifanc eu cwblhau’n lleol.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog wybod bod yr Uwch Reolwr, Darpariaeth Ieuenctid Integredig yn ystyried sut gellir mesur, nodi targedau a monitro allbynnau ar gyfer y gwasanaeth a’r effaith ar bobl ifanc.   Roedd y newidiadau yr oedd yn eu cynnig yn cynnwys newid cyflenwr y system monitro electronig i ddull mwy effeithiol ac roedd gwybodaeth mewn perthynas â hyn wedi’i chynnwys yn yr adroddiad.   Roedd yr Uwch Reolwr, Darpariaeth Ieuenctid Integredig hefyd yn awyddus i ddefnyddio’r wybodaeth a’r atodiadau yn yr adroddiad i siapio gwasanaethau yn y dyfodol i gefnogi pobl ifanc.   Dywedodd y Prif Swyddog fod cefnogi lles emosiynol pobl ifanc yn eu helpu i ymgysylltu’n well yn yr ysgol ac yn cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau.   

 

            Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch eglurdeb ym mhwynt 1.03 o’r adroddiad gan y Cynghorydd Dave Macie, eglurodd y Prif Swyddog ei fod yn cyfeirio at y Wobr Dug Caeredin, a oedd yn boblogaidd iawn ymhlith ysgolion ac yn fuddiol iawn ar gyfer pobl ifanc.   Roedd yr Uwch Weithiwr Ieuenctid hefyd yn arweinydd Dug Caeredin ac yn cynnig cefnogaeth i ysgolion i gynnig eu rhaglenni eu hunain a bodloni’r prosesau achredu.   Darparodd wybodaeth am y ganolfan mynediad agored yn yr Wyddgrug a’r camau a oedd yn cael eu cymryd i alluogi hyn i barhau.

 

            Awgrymodd y Cynghorydd Dave Mackie y byddai modd cynnal gweithdy i Aelodau’r Pwyllgor i amlinellu sut y gellid darparu’r amcanion o fewn Cynllun Cyflawni 2021-2024.   Croesawodd y Prif Swyddog yr awgrym hwn a dywedodd y gellid trefnu gweithdy yn hwyrach yn 2023 ac y gellid gwadd pobl ifanc i’r gweithdy i amlinellu eu safbwynt i’r Pwyllgor.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Paul Cunningham fod y Fframwaith Prentisiaeth yn rhagorol ac nad yw’r Brifysgol yn addas i bawb.  Roedd yn falch ei fod yn cael ei gyflwyno fel cymhwyster i annog pobl ifanc i ymuno â’r Gwasanaeth Ieuenctid drwy’r Fframwaith Prentisiaeth.

 

            Mewn ymateb i sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Bill Crease ar y pedwar argymhelliad a’r systemau rheoli data, cytunodd y Prif Swyddog fod data meintiol yn hollbwysig at  ...  view the full Cofnodion text for item 39